Dim ond tua 62% o bobol ifanc Cymru sy'n aros yma i astudio ar gyfer addysg uwch
|
Mae academydd amlwg wedi beirniadu prifysgolion Cymru a pholisi Llywodraeth y Cynulliad ar addysg uwch.
Ar Faes yr Eisteddfod ddydd Mawrth dadleuodd y Dr Richard Wyn Jones nad oedd system addysg Cymru yn diwallu anghenion pobol y wlad.
Mae Dr Jones, darlithydd yn adran Gwleidyddiaeth Prifysgol Cymru Aberystwyth, wedi bod yn amlinellu ei bryderon.
Honnodd bod diffyg ymchwil ar faterion oedd yn ymwneud yn benodol â Chymru yn digwydd mewn prifysgolion yng Nghymru.
"Yr hyn dwi wedi trio ei ddadlau heddiw yw bod sefyllfa'r Gymraeg yn drychinebus os ydych chi'n edrych ar ystadegau.
"Tua 3% o bobol sy'n cael unrhyw rhan o'u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg a dylai fod yn 7% erbyn 2010; does dim polisi o gwbwl gyda nhw i wireddu'r nod," meddai Dr Jones.
 |
Does dim strategaeth genedlaethol i sicrhau dilyniant addysg Gymraeg mewn colegau
|
Dywedodd bod nifer o fyfyrwyr o Gymru yn symud i Loegr i astudio oedd yn y pen draw yn effeithio ar fywyd cymdeithasol a diwylliannol Cymru.
"Dim ond tua 62% o bobol ifanc Cymru sy'n aros yma i astudio ar gyfer addysg uwch o'i gymharu â 93% o bobol ifanc Yr Alban sy'n aros yno a 95% yn Lloegr.
"Yn sicr, mae hyn yn cael effaith gymdeithasol a diwylliannol enfawr ar Gymru.Ry'n ni'n colli'r bobol sy'n gallu rhoi arweiniad i'n cymunedau."
Er bod gwleidyddion wedi dechrau mynd i'r afael â'r broblem, meddai, doedden nhw ddim yn deall sut yr oedd prifysgolion yn cael eu strwythuro.
"Mae gwleidyddion eisiau uno prifysgolion ac annog cydweithio ond mae'r strwythur ariannol yn arwain at sefydliadau addysg yn cystadlu yn erbyn ei gilydd."
'Dim strategaeth'
Un sy'n credu bod angen i Lywodraeth y Cynulliad ddatblygu strategaeth bwrpasol ar gyfer addysg uwch yw llefarydd Plaid Cymru ar ddiwylliant, yr iaith a chwaraeon, Owen John Thomas AC.
"Does dim strategaeth genedlaethol i sicrhau dilyniant addysg Gymraeg mewn colegau," meddai Mr Thomas.
"Galw gan rieni sydd wedi arwain at dwf addysg Gymraeg nid yr awdurdodau lleol.
"Dylai fod gan Lywodraeth y Cynulliad strategaeth genedlaethol sy'n sicrhau addysg Gymraeg o'r crud i'r bedd."
Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth y Cynulliad fod "yna grŵp llywio sy'n ... darparu ac yn cadw golwg ar weithredu strategaeth i ddatblygu addysg uwch Gymraeg ... fydd yn cyhoeddi strategaeth ddrafft ar Fedi 15 2004."
Dywedodd llefarydd fod Llywodraeth y Cynulliad wedi creu strategaethau i gryfhau Cymru fel gwlad lle roedd y rhai â sgiliau uchel am fyw a lle roedd busnesau swyddi-da am leoli.
"Mae yna dystiolaeth fod y ganran o swyddi o ansawdd yng Nghymru yn cynyddu ar yr un raddfa ag un Prydain."