BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 3 Awst, 2004, 15:21 GMT 16:21 UK
Morgan o blaid Prifwyl deithiol
Rhodri Morgan
Mae parhau i symud yn beth da i nifer o ardaloedd yng Nghymru

Dylai'r Eisteddfod ddal i symud o ardal i ardal i hybu'r iaith mewn ardaloedd Seisnig, meddai Prif Weinidog Cymru ddydd Mawrth pan oedd yn Llywydd y Dydd yng Nghasnewydd.

Dywedodd Rhodri Morgan fod dylanwad yr Eisteddfod mewn ardaloedd fel Casnewydd yn fawr wrth godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r etifeddiaeth Gymraeg.

Ers ymweliad diwethaf yr Eisteddfod â Chasnewydd mae'r iaith wedi ei thrawsnewid ac wedi datblygu yn y sir.

Roedd Mr Morgan yn gobeithio y bydd yr un peth yn digwydd unwaith eto.

Ond gwrthododd wneud unrhyw sylw am y galwadau i gael mwy o arian.

"Mae'n werth cadw at draddodiadau a defnyddio'r genhadaeth i ddatblygu," meddai Mr Morgan.

"Mae'n bwysig dal i ymweld â llefydd, yr ardaloedd gwledig a'r ardaloedd llai traddodiadol eu Cymraeg, fel y gallen nhw ddysgu pethau o wahanol ardaloedd.

"Mae nifer o bethau da wedi deillio o ymweliad yr Eisteddfod â'r ardal yma 16 mlynedd yn ôl.

"Mae'r iaith wedi cryfhau, mae bobol y fro yn fwy ymwybodol o'u Cymreictod a'u diwylliant.

"Mae pethau yn newid ac mae angen gweld newid yn deillio er gwell o'r ymweliad yma."

Cyfeiriodd Mr Morgan at yr Eisteddfod gyntaf y bu iddi, yn Aberpennar yn 1946, ac fe dalodd deyrnged i Gyngor Sir Casnewydd am gymryd y baich o ofalu am Barc Tŷ Tredegar fel bod y safle ar gael i ddenu'r Eisteddfod.

Dywedodd mai dyma'r maes Eisteddfod gorau erioed iddo ymweld ag ef.

Gadael ôl

Fe wnaeth Mr Morgan gymharu ei hun efo Ifor Hael. Dywedodd nad oedd rhaid i hwnnw gyfiawnhau be roedd yn ei wneud efo'r arian cyhoeddus wrth noddi beirdd ac ati.

"Rhaid i mi gyfiawnhau pam rwyn noddi traddodiadau, diwylliant ac ati ac mae'n anodd ond dyna ydi fy nyletswydd," meddai.

"Gyda'r Eisteddfod yn symud, mae'n gadael ei hôl ac mae'r hyn sydd ar ôl yn bwysig iawn."

Dywedodd, er na fydd yr Eisteddfod yn aros yma, fe fydd y diwylliant a dylanwad yr iaith yn dal yn yr ardal.

Rhodri Morgan ac Elfed Roberts
Dywedodd Elfed Roberts bod gan Mr Morgan bethau calonogol i'w dweud

Ychwanegodd bod hi'n bwysig bod yr ardaloedd traddodiadol Cymraeg yn dysgu gwersi yn yr un modd â'r ardaloedd llai traddodiadol sy'n denu gwirfoddolwyr i gynorthwyo yn yr Eisteddfod ac yna'n dal i gynnal gweithgareddau yn yr ardal.

Ond er i Mr Morgan, mewn cynhadledd i'r wasg wedyn, osgoi rhoi addewid o gymorth i'r Eisteddfod, dywedodd Elfed Roberts, cyfarwyddwr yr Eisteddfod, fod pethau calonogol yn yr hyn a ddywedodd Mr Morgan.

"Yr oedd llawer yn ei neges yn galonogol gan gynnwys y ffaith ei fod yn cydweld fod ymweliad yr Eisteddfod yn llesol i'r iaith," meddai Mr Roberts.

Prysurodd Mr Roberts i ddweud hefyd wrth BBC Cymru'r Byd, nad yw'r Eisteddfod yn gofyn am swm fawr o arian i'w chynorthwyo.

"Dydyn ni ddim yn sôn am dri chwarter na hanner cost yr Eisteddfod ond am swm sydd cyn lleied â dim ond yn rhyw £150,000," meddai.

"Pe byddai'r Eisteddfod wedi parhau i dderbyn yr un lefel o gymorth gan gynnwys chwyddiant ag a gafodd pan sefydlodd weinyddiaeth ganolog ar gais llywodraeth y dydd yn 1977-78, na fyddai'n wynebu ei thrafferthion presennol," ychwanegodd Mr Roberts.





CASNEWYDD A'R CYLCH 2004

O'R MAES

CEFNDIR

YR ORSEDD

O'R ARCHIF


ORIELAU

GWEFAN


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^