Eryl Wyn Rowlands yn cynnig cymorth i un o'r ymwelwyr
|
Yn ystod wythnos yr Eisteddfod mae ymwelwyr â'r Maes yng Nghasnewydd yn cael eu cyfarch gan dîm o wirfoddolwyr ac maen nhw yno, fel y dywed y geiriau ar eu crysau, i helpu.
Bwriad y tîm yw helpu holl ymwelwyr yr Eisteddfod gan eu rhoi ar ben ffordd o ran cyfleusterau ar y Maes a gwybodaeth gyffredinol.
Mae'r criw o 20 yn cynnig gwybodaeth mewn sawl iaith, Cymraeg, Saesneg, Ffrangeg, Almaeng ac mae un yn siarad iaith frodorol Ynys Maritus.
"Ymhlith y cwestiynau cyffredinol sy'n cael eu gofyn ydi lle mae pethau, yn benodol y toiledau," meddai Eryl Wyn Rowlands sy'n arwain y tîm.
"Maen nhw'n gofyn lle mae'r banc, lle mae modd cael copi o raglen y dydd, lle mae'r neuadd ddawns a'r neuadd grefftau.
Mae'r criw yn gallu cynnig cymorth mewn sawl iaith i'r ymwelwyr
|
"Dwi'n gwybod bod y Ffrangeg wedi cael ei defnyddio gan rai ymwelwyr yn barod."
Mae'r gweithwyr yno rhwng 0830 BST a 1715 BST gyda nifer o ddisgyblion ysgol sy'n 16 oed a rhai hŷn yn helpu hefyd.
"Mae pobol eisiau gwybod lle mae'r ffôn cyhoeddus ar y maes a'r ffordd allan - nifer ddim yn sylweddoli bod nhw'n mynd allan yr un ffordd â ddaethon nhw mewn.
"Mae'r ymateb wedi bod yn hynod o bositif ac mae'n gweithio'n hwylus iawn," meddai Mr Rowlands.
Dywedodd bod ymwelwyr â'r Maes ddydd Sul yn benodol yn ddi-Gymraeg ac yn drigolion lleol.
"Roedden nhw'n falch iawn o'r ddarpariaeth oedd ar gael ac wedi dychryn wrth ddod i mewn yma bod 'na gymaint ar gael.
"Roedd eu hymateb yn bositif iawn.
"Wrth gwrs rydan ni hefyd yn manteisio ar y cyfle i roi gwybodaeth am y ddarpariaeth sydd ar gael i ddysgu'r iaith," meddai.