Robyn Llŷn: 'Safwn yn y bwlch'
|
Mae Archdderwydd Cymru wedi gwrthod ymddiheuro ar ôl i Gyngor yr Eisteddfod ofyn iddo wneud hynny wedi ei sylwadau o'r Maen Llog fore Llun.
Cododd Robyn Lewis (Robyn Llŷn) amheuon ynglŷn ag agwedd Cyngor yr Eisteddfod at "y rheol iaith" Gymraeg wrth annerch aelodau o Orsedd y Beirdd.
Ond mewn cynhadledd newyddion a alwyd yn arbennig brynhawn Llun dywedodd Llywydd Llys yr Eisteddfod R Alun Evans i Dr Lewis wrthod ymddiheuro.
Dywedodd na allai ddeall pam y penderfynodd Mr Lewis siarad fel y gwnaeth.
"Mae Robyn Llŷn wedi creu ansicrwydd lle nad oes ansicrwydd, wedi creu amwysedd lle nad oes amwysedd a chreu cymhlethod ym meddyliau pobol," meddai.
"Anodd deall pam y mae'r Archdderwydd yn creu rhwyg lle nad oes rhwyg.
"Dydi'r rheol Gymraeg ddim dan fygythiad a does dim yr ydym ni wedi ei wneud yn debyg o'i gwanhau," meddai.
Gwadodd fod rheol Gymraeg yr Eisteddfod yn achosi unrhyw dramgwydd wrth geisio cael nawdd gan gyrff fel y Cynulliad Cenedlaethol.
Roedd Dr Lewis wedi annog aelodau'r Orsedd i wrthwynebu unrhyw benderfyniad gan y Cyngor i wanhau rheol Gymraeg yr Eisteddfod.
"Mae cyfansoddiad yr Eisteddfod yn nodi'n glir mai'r Gymraeg ydi iaith yr Eisteddfod," meddai'r Dr Evans.
Dywedodd i aelodau o'r Cyngor gyfarfod â Robyn Llŷn wedi'r araith a gofyn iddo ymddiheuro'n gyhoeddus.
Buchedd Garmon
"Yr ydw i'n siomedig gyda'r sylwadau ond dyma ddiwedd y mater o'm safbwynt i, yn bersonol ac o ran y Cyngor.
"Dwi ddim yn fodlon ei fod wedi defnyddio'r cyfle i drafod problem lle nad oes problem."
Yn ei araith o'r Maen Llog yr oedd Dr Lewis wedi dyfynnu geiriau enwog Saunders Lewis o Buchedd Garmon a'u cymhwyso at y ddadl dros reol Gymraeg yr Eisteddfod.
"Fe wyddom oll y geiriau hyn, ond dwi i ddim am ymddiheuro am eich atgoffa o'r geiriau a lefarodd Saunders Lewis trwy eiriau Garmon:
'Gwinllan a roddwyd i'm gofal yw Cymru fy ngwlad, i'w thraddodi i'm plant, ac i blant fy mhlant, yn dreftadaeth dragwyddol. Ac wele'r moch yn rhuthro arni, i'w baeddu. Minnau yn awr, galwaf ar fy nghyfeillion, y cyffredin a'r ysgolhaig. Deuwch ataf i'r adwy: sefwch gyda mi yn y bwlch, fel y cedwir i'r oesoedd a ddel y glendid a fu.'
Cydwybod
"Gyd Orseddogion," meddai "edryched pob un ar ei gydwybod ei hun, a safed yn y bwlch."
Yn ei araith roedd Dr Lewis wedi pwysleisio fod Gorsedd y Beirdd a Chyngor yr Eisteddfod yn ddau gorff gwahanol.
Roedd Gorsedd y Beirdd, meddai, "yn sefydliad sy'n hollol annibynnol ar Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol, ac (nid) oes gan yr Orsedd unrhyw gyfrifoldeb am yr hyn a wneir gan, neu yn enw, y Cyngor hwnnw."
Cyfeiriodd at ymroddiad llwyr yr Orsedd i'r rheol Gymraeg. "Cymraeg, a'r Gymraeg yn unig, yw iaith yr Orsedd."