BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 2 Awst, 2004, 11:28 GMT 12:28 UK
Damwain yn arwain at oedi
Dorian Evans
Dorian Evans: Dim trafferthion oni bai am y ddamwain

Mae nifer o ymwelwyr a Maes yr Eisteddfod wedi cwyno am yr oedi a'r traffig ddydd Llun.

Damwain ger Cyffordd 28 ar yr M4 oedd yn golygu bod gyrwyr yn cymryd dros awr a chwarter i deithio dair milltir i'r Eisteddfod.

Roedd tagfeydd difrifol yng nghyffiniau'r Eisteddfod.

"Bore fory bydd llai o broblem," meddai'r Cwnstabl Dorian Evans mewn cynhadledd newyddion. "Yn ffodus, nid oedd neb wedi brifo."

Ymwelwyr ar y maes
Roedd nifer o Eisteddfodwyr yn hwyr yn cyrraedd y maes

Cyffordd 28 yw'r un allweddol oddi ar yr M4 i Faes yr Eisteddfod ond dywedodd y Cwnstabl Evans y dylai gyrwyr o'r gorllewin ddilyn arwyddion oedd yn eu harwain o Gyffordd 30 i ffordd ddeuol yr A48 ac wedyn i feysydd parcio penodol.

Roedd y dagfa fore Llun yn golygu oedi i Mam y Fro, Diane Ebo, oedd i fod i gymryd rhan yn seremoni'r Orsedd.

Gwnaed aildrefnu am nad oedd yn gallu cyrraedd mewn pryd.

Gohiriwyd cychwyn cynhadledd y wasg foreol yr Eisteddfod gan fod swyddog y wasg, Dyfed Evans, wedi ei ddal yn y dagfa.





CASNEWYDD A'R CYLCH 2004

O'R MAES

CEFNDIR

YR ORSEDD

O'R ARCHIF


ORIELAU

GWEFAN


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^