BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sul, 1 Awst, 2004, 13:11 GMT 14:11 UK
Haul yn gwenu ar drefnwyr
Elfed Roberts
Elfed Roberts: Hapus gyda nifer ymwelwyr y diwrnod cyntaf

Ar ddiwrnod cyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol fe wnaeth dros 16,000 o bobol ymweld â'r Maes.

Mae trefnwyr yr Ŵyl, sy'n cael ei chynnal yng Nghasnewydd eleni, yn hapus iawn gyda'r nifer gan obeithio y bydd yr ymwelwyr yn dal i heidio weddill yr wythnos.

Roedd y nifer bron i 2,000 yn fwy na'r nifer ymwelodd â'r dydd Sadwrn cyntaf yn Nhyddewi ddwy flynedd yn ôl a 2,000 yn llai na'r nifer fu ym Meifod y llynedd.

Roedd Elfed Roberts, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, yn hapus iawn ac yn falch hefyd bod nifer o bobol leol Casnewydd wedi bod yn crwydro'r maes.

"Rydw i'n hapus iawn gyda'r dechrau rydan ni wedi ei gael ac mae'r trefniadau wedi bod yn mynd yn hwylus," meddai yn y gynhadledd i'r wasg ddydd Sul.

"Roedden ni wedi llenwi'r meysydd parcio yn gynt na'r disgwyl.

"Roedd hi'n braf iawn gweld lot o bobol leol yma."

Dim problem

Dywedodd bod nifer wedi cael eu rhyfeddu gan yr hyn oedd ar gael, nifer ddim wedi bod mewn Eisteddfod o'r blaen.

"Cafodd y rhai fues i'n siarad efo nhw eu plesio gan yr amgylchiadau a'r gweithgareddau oedd ar gael."

Ymwelwyr ar y maes
Fe ddaeth 16,172 o ymwelwyr i'r maes ddydd Sadwrn

Dywedodd Mr Roberts nad oedd 'na unrhyw drafferthion wedi bod o ran gwerthiant alcohol ar y maes a bod pawb yn croesawu'r ddarpariaeth.

"Fe ddaeth nifer ata i'n dweud pam ein bod wedi cael yr holl drafodaethau ac y dylai'r cyfan fod wedi cael ei roi ar y maes flynyddoedd yn ôl."

Ategodd Dafydd Whittall, Is-gadeirydd Cyngor yr Eisteddfod, fod gosod y ddarpariaeth gyda'r bwyd wedi bod yn flaenoriaeth.

"Doedden ni ddim am gael tent gwrw fel y cyfryw a dwi'n meddwl bod gosod yr alcohol gyda'r bwyd i'w weld yn llwyddo."

Aeth Mr Whittall ymlaen i sôn am newidiadau posib i'r Eisteddfod gyda'r syniad o gwtogi'r Eisteddfod o ddydd Sadwrn i ddydd Sadwrn a chynnal y Gymanfa Ganu ar y dydd Sul cyntaf.

Newidiadau

"Fe fyddai cwtogi'r wythnos yn cwtogi'r costau wrth gwrs," meddai wrth drafod rhai syniadau fydd y Cyngor yn ei drafod.

"Mae nifer yn dod yma i gystadlu ac felly mae'r seremoni agoriadol ar y nos Wener cyntaf yn ein galluogi i ddechrau'r cystadlu'n syth ar y Sadwrn cyntaf.

Dafydd Whittall
Dafydd Whittall: Dim bwriad o gael pabell gwrw fel y cyfryw
"Dwi'n credu mai ar ddiwedd yr wythnos y byddai'n well cwtogi ac felly gorffen ar y nos Sadwrn."

Dywedodd Dr R. Alun Evans, Llywydd y Llys, bod gweld trigolion lleol Casnewydd ar y maes ar y diwrnod cyntaf yn braf iawn.

"Fe fydd yr Eisteddfodwyr pybyr yn dod yma doed a ddelo ond roedd hi'n bwysig i ni ar y diwrnod cyntaf i ddenu'r bobol leol.

"Roedden nhw i weld wedi mwynhau ac felly gobeithio yn annog pobol eraill i ddod yma yn ystod yr wythnos."

Fe aeth 16,172 o bobol drwy giatiau Parc T#375; Tredegar ddydd Sadwrn ac yn ôl yr heddlu roedd y traffig yn symud yn weddol.

Ond fe ategodd yr Arolygydd Huw Nicholas yr alwad ar i ymwelwyr ddefnyddio'r ddarpariaeth bysiau am ddim o ganol y ddinas ac o'r orsaf drên i leihau ar y nifer o geir.

Ac hefyd i ddilyn yr arwyddion ffyrdd i mewn ac allan o'r maes.





CASNEWYDD A'R CYLCH 2004

O'R MAES

CEFNDIR

YR ORSEDD

O'R ARCHIF


ORIELAU

GWEFAN


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^