BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 18 Mawrth, 2004, 10:38 GMT
Microsoft i gynnwys mamiaith
Allweddellau cyfrifiadur
Amrywiaeth: Bydd Microsoft yn cynnwys mwy o ieithoedd

Bydd y Gymraeg yn cael ei chynnwys yng ngwasanaeth Microsoft Windows am fod prosiect i godi nifer defnyddwyr sy'n siarad ieithoedd lleiafrifol.

Mae'r Gymraeg ymhlith 40 o ieithoedd y bydd y cwmni yn eu cynnwys ar ôl cwynion nad oedd pobol ifanc yn cael cyfle i ddefnyddio'u mamiaith.

Eisoes mae rhaglenni Microsoft yn cael eu defnyddio mewn 40 o ieithoedd, gan gynnwys Saesneg, Sbaeneg, Arabeg a Chinëeg.

Mae disgwyl i'r rhaglen Gymraeg a rhai cyfarwyddiadau fod ar gael ofewn chwe mis.

Dywedodd y cwmni ei fod wedi derbyn cwynion o lefydd fel Catalonia, Malaysia a rhanbarthau'r Artic yng Nghanada.

Mae honiadau fod cyfyngu ar ieithoedd brodorol ar y we wedi effeithio ar iaith bob-dydd, meddai Gohebydd Busnes Gogledd America'r BBC, Stephen Evans.

'Amrywiaeth'

Ac er bod rhai'n honni fod llai o ieithoedd yn well ar gyfer masnach byd-eang, mae Microsoft wedi dweud ei fod o blaid "amrywiaeth ieithyddol," meddai Mr Evans.

Y rhai fydd yn elwa yw siaradwyr Gujarati a Tamil yn India, Bahasa yn Malaysia, Catalaneg ac ieithoedd brodorol Gogledd Canada.

"Rydym yn gweithio gyda llywodraethau ac academwyr i ddatblygu'r gwasanaeth yma yn ystod y flwyddyn nesaf ar gyfer Microsoft Windows XP a Microsoft Office 20033," meddai Maggie Wilderotter, uwchddirprwy lywydd sector cyhoeddus Microsoft.

Ers dechrau'r flwyddyn mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi bod yn gweithio gyda'r cwmni.

"Mae hwn yn gam arwyddocaol ymlaen ar gyfer y Gymraeg, ym myd addysg, yn y gweithle a thu hwnt," meddai Rhodri Williams, cadeirydd y bwrdd ar y pryd.




HEFYD:
Hwb i'r iaith ym myd technoleg
23 Ion 04  |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^