Dysgu gwersi?: Mae tiwtoriaid yn brin
|
Mae rhestr aros hir o bobol sydd am ddysgu'r Gymraeg yn yr ardal sy'n croesawu'r Brifwyl eleni.
Mae trefnydd y gwersi yng Ngwent wedi dweud fod y sefyllfa'n argyfyngus.
Ar hyn o bryd dyw e ddim yn gallu cynnig lle ar gwrs i bawb sydd am ddysgu'r iaith.
"Ry'n ni'n gorfod dweud ein bod ni'n flin am nad oes dosbarthiadau ar eu cyfer nhw," meddai Trefnydd Cymraeg i Oedolion hen sir Gwent, Geraint Wilson-Price.
"Dyw hyn ddim yn deg iddyn nhw a dyw hyn ddim yn rhoi neges dda."
 |
Dim ond...40 o diwtoriaid llawn-amser sy 'na
|
Does dim gobaith ateb y galw yn y flwyddyn sy'n dod, meddai, oni bai fod ELWa a Llywodraeth y Cynulliad yn ymdrechu i sicrhau fod mwy o diwtoriaid llawn-amser.
Mae'n ofni y bydd mwy o broblemau yn yr haf.
Bydd mwy o alw, meddai, am wersi Cymraeg wedi i'r Eisteddfod Genedlaethol ymweld â Chasnewydd.
Mae cyflogi tiwtoriaid rhan-amser yn opsiwn, meddai, pe bai modd cael digon ohonyn nhw.
Ond mae gweithwyr yn y maes o'r farn fod angen newid y system, a sicrhau arian i dalu am diwtoriaid llawn-amser ym mhob ardal.
Mae arbenigwyr o'r farn y gallai hyn gyfrannu'n fawr at y nod o godi nifer y siaradwyr Cymraeg erbyn y cyfrifiad nesaf.
 |
Ry'n ni'n gorfod dweud ein bod ni'n flin am nad oes dosbarthiadau ar eu cyfer nhw (dysgwyr)
|
"Mae 'na broblem," meddai Ann Jenkins o Uned Ddwyieithog ELWa.
"Mae diffyg adnoddau.
"Dim ond 700 o diwtoriaid rhan-amser sy 'na a 40 o rai llawn-amser.
"Ond fyddwn ni ddim yn gallu gwneud gwahanaieth yn ystod y misoedd nesa."
Dywedodd fod £3.4m ar gael at Gymraeg i Oedolion.
"Y gobaith yw y bydd hwn yn cynyddu."