BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 23 Chwefror, 2004, 07:32 GMT
'Llaeth organig yw'r gorau'
llefrith
'Mae'n llai tebyg y bydd yna blaladdwyr a gwrthfiotigau mewn llaeth organig na llaeth arferol'
Mae llaeth organig yn well na llaeth cyffredin, meddai gwaith ymchwil a gafodd ei wneud yn Aberystwyth.

Mae yna o leiaf 64% yn fwy o asidau Omega-3 mewn llaeth organig yn ôl Sefydliad IGER, sy'n rhan o Brifysgol Cymru Aberystwyth.

Ddydd Llun mae ffermwyr llaeth organig yn galw ar Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) i gydnabod bod eu llaeth yn well.

Dydy'r rhan fwyaf o bobol gwledydd Prydain ddim yn derbyn digon o asidau Omega-3 sy'n hanfodol ar gyfer bod yn iach, yn arbennig i'r galon, yr ymennydd ac i atal y gwynegon.

"Dywedodd Syr John Krebs [pennaeth yr ASB] yn y gorffennol nad oedd yna brawf fod bwyd a diod organig yn well i ni, ond mae'r prawf yma'n ddiamheuol," meddai Sally Bengal, prif weithredwr OMSCO, prif gwmni cydweithredol ffermwyr llaeth organig Prydain.

"Mi rydyn ni'n gwahodd yr ASB i ddechrau argymell llaeth organig fel rhan o ddeiet iach."

Dr Richard Dewhurst arweiniodd y gwaith ymchwil yn IGER.

Meillion

"Bu i'n gwaith ymchwil blaenorol ddangos fod llaeth o wartheg sy'n bwyta meillion yn gallu cynnwys hyd at 240% yn fwy asidau Omega 3 na llaeth o wartheg wedi bwyta gwair neu ddwysfwyd," meddai.

"Mae ffermwyr organig yn rhoi llawer mwy o feillion i'w gwartheg yn hytrach na rhoi cemegolion ar y borfa i gael cnwd da."

Mae'n rhaid cael asid Omega-3 o fwyd gan nad yw'r corff yn ei gynhyrchu.

Y ffynhonnell orau yw pysgod seimllyd, ond yn ôl gwaith ymchwil dim ond traean y boblogaeth sy'n bwyta pysgod fel mecryll.

Gallai yfed ond hanner peint y dydd o laeth organig fod yn 10% o'r hyn sy'n angenrheidiol o Omega-3.

A byddai bwyta darn o gaws organig o faint blwch matsus roi 88% o'r hyn sy'n angenrheidiol.

Yn ôl arbenigwr, mae'n llai tebyg y bydd yna blaladdwyr a gwrthfiotigau mewn llaeth organig na llaeth arferol.




HEFYD:
Angen helpu ffermwyr organig
06 Chwef 03  |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^