BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 27 Chwefror, 2004, 08:53 GMT
Gwyl ffilmiau mynydd yn Eryri
Ŵyl Ffilmiau Mynydd Llanberis
Mae disgwyl bobol o bob man i dyrru i Lanberis
Mae disgwyl i dros fil o bobol fynd i Lanberis ar gyfer yr ail Ŵyl Ffilmiau Mynydd yno.

Gŵyl dridiau ydy hi, yn dechrau dydd Gwener a bydd y ffilmiau'n cael eu dangos mewn gwahanol ganolfannau fel Gwesty Dolbadarn, y ganolfan gymuned a chanolfan arddangos Mynydd Gwefru.

Mae Llanberis yn ganolfan i rai o fynyddwyr amlycaf Ewrop, ynghyd ffotograffwyr, awduron a gwneuthurwyr ffilmiau.

Un bwriad yr ŵyl yw tynnu sylw at orchestion anturwyr lleol ond nid ffilmiau'n unig fydd yno.

Bydd amrywiaeth o bethau'n digwydd yno gan gynnwys sgyrsiau, barddoniaeth, ffotograffiaeth a chelf gan gyfranwyr o Gymru a thu hwnt.

Yn ogystal ffilmiau Cymreig, gan gynnwys rhai ar anturiaethau'r Cymro Eric Jones o Dremadog, bydd ffilmiau o Loegr, Bwlgaria a'r Almaen i'w gweld yno.

Cynhelir arddangosfa fasnachol ym Mynydd Gwefru, ynghyd hyfforddiant dringo mewn canolfannau lleol.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^