BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 5 Mawrth, 2004, 13:40 GMT
'Dim rhamant na rhinwedd'
Alun Lenny
Alun Lenny
BBC Cymru

Llinell biced
Yng nghanol streic: Roedd nifer o lowyr ar linellau piced

Gohebu ar Streic y Glowyr oedd un o'r pethau mwyaf anodd a diflas wnes i erioed mewn 30 mlynedd fel gohebydd.

Ugain mlynedd yn ddiweddarach alla i ddim gweld unrhyw ramant na rhinwedd i'r peth o gwbwl.

Roedd yn gyfnod o galedi, torcalon a chasineb.

Fe oedd 'na arwriaeth mawr, mae'n wir, ond arwriaeth oedd yn debyg i'r un gafwyd ym Mrwydr y Somme ydoedd.

Aberth a gofid ofer.

Fel gohebydd diduedd, ro' n i'n methu deall pam roedd yr NUM wedi galw streic ar ddechrau'r gwanwyn, ar drothwy cyfnod lle byddai'r galw tymhorol am lo yn syrthio a phan oedd digonedd o lo yn y storfeydd.

Ro'n i'n methu gweld sut fyddai'n bosib i'r glowyr ennill.

Rwy'n cofio teimlo tristwch mawr dros y cymunedau glo fyddai'n wynebu misoedd lawer o galedi os na fydden nhw am ildio i Lywodraeth Thatcher a mynd yn l i'r gwaith 'u cynffonau rhwng eu coesau.

Dyma ddau ddiwrnod o'r dyddiadur sy'n cyfleu, gobeithio, yr hyn ddigwyddodd.

Rhagfyr 5 1984

Gadael y tŷ am 4.15 y bore. Teithio i lofa'r Betws ger Rhydaman yn fy Vauxhall Chevette brown. Cael stop gan blisman ar Sgwr Gorslas. Hwnnw ishe gwybod lle o'n i'n mynd. Roedd plismyn ymhob man y boreau hynny, i rwystro picedwyr o bant rhag cyrraedd pyllau glo'r gorllewin.

Ymlaen drwy Rydaman. Cwrdd chriw camera tu fas i'r lofa. Ro'n nhw wedi teithio o Abergwaun y bore hwnnw. (Anodd credu heddiw - ond adeg dechrau S4C Tomi Owen (camera) a Tony Harries (dyn sain) oedd yr unig griw camera Cymraeg eu hiaith oedd yn gweithio i Newyddion).

Baner Cynheidre
Roedd y glowyr yn cynnal gorymdeithiau i gasglu cefnogeth
Am foreau gwlyb ac oer di-ri buon ni'n cwrdd 'n gilydd ymhell cyn y wawr tu fas i ryw bwll glo neu gilydd - i fynd i ganol yr atgasedd.

Dyrnaid o bicedwyr oedd wrth fynedfa'r Betws, yn eu plith Dennis Pugh a fu'n ddiweddarach yn aelod o gynghorau sir Dyfed a Chaerfyrddin.

Roedd e'n cael sgwrs ddigon cyfeillgar phennaeth yr heddlu yn Rhydaman, y diweddar Uwch Arolygydd Delme Evans a ddaeth yn wyneb enwog drwy Gymru oll fel Ceidwad y Cledd, y gŵr fu'n cario'r Cleddyf Mawr yn nefodau'r Steddfod Genedlaethol. Roedd nifer go lew o blismyn yno a thorf o lowyr lleol a dieithr ar draws y ffordd.

Dyma fws yn cyrraedd a dyrnaid o'r 'scabs' ynddo. A'r sefyllfa'n troi'n sur yn frawychus o sydyn. Carreg yn cael ei thaflu at y bws a'r ffenest flaen yn chwalu'n yfflon. Cofiaf hyd heddiw yr olwg o sioc a braw ar wyneb y gyrrwr yng ngolau lamp y camera.

Rhagor o wthio a rhegi a'r bws yn mynd yn araf i mewn i lofa'r Betws. Mynd 'r criw i gael coffi a thost ym Mhont Abraham. Dyw hi'n dal heb wawrio. Y tri ohonom yn cael 'nap' am awren yn y car cynnes cyn mynd ymlaen i Sir Benfro neu Aberystwyth neu Landrindod neu lle bynnag fyddai eitem newyddion arall y dydd i'w ffilmio.

Ionawr 7 1985

Dechrau'r diwedd. Ar fore gaeafol iawn daeth Arthur Scargill i annerch glowyr gorllewin Cymru yn Neuadd Pontyberem. Ro'n i eisoes wedi treulio awr a mwy mewn cesair ag oerfel ofnadwy tu fas i lofa cyfagos Cynheidre.

Dyma un o'r boreau oeraf rwy'n cofio yn fy mywyd! Wedi colli pob teimlad yn fy nhraed. Mynd i lawr ganol bore i Bontyberem i aros am Scargill. Torf fawr o lowyr a gwragedd yno. Naws yn gas iawn. Pobol wedi chwerwi'n fawr ar l Nadolig anodd iawn.

Tipyn o atgasedd at y wasg. Mae'n siŵr fod llawer o'r rhai oedd yn rhegi atom yn credu fod pob gohebydd a phapur a rhaglen yn g#373n bach Thatcher.

Craciau

Roedd yr hen Scargill mewn hwyliau da yn cyrraedd. Cawsom gyfweliad ganddo yn llawn tn a hyder. Ond tu l i ddrysau caedig Neuadd Bentref Pontyberem, roedd hi'n amlwg bod Scargill yn cael amser anodd.

Cawsom ein gwahardd rhag mynd i mewn ond roedd y gweiddi a'r bwio achlysurol i'w clywed yn blaen o'r tu fas. Roedd hi'n amlwg bod craciau'n ymddangos. A phan ddaeth Arthur Scragill allan, roedd ei wyneb yn ddu - a gwrthododd wneud yr un sylw wrth gael ei hebrwng i'w gar gan ei 'heavies'.

O fewn ychydig wythnosau, roedd y streic drosodd.

O fewn ychydig flynyddoedd roedd maes glo mawr De Cymru yn rhan o hanes.





Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^