BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 11 Chwefror, 2004, 17:31 GMT
Cynllun yn gwylltio aelodau capel
Capel Y Tabernacl
Fe fu tān yng nghapel Y Tabernacl fis Tachwedd

Mae cynllun i ail ddatblygu rhan o ganol Caerdydd wedi codi nyth cacwn yn un o gapeli enwoca'r brifddinas.

Mae aelodau capel y Tabernacl yn flin bod y cynllun i ehangu Canolfan Siopa Dewi Sant a gweddnewid yr ardal o'i chwmpas hefyd yn golygu cau stryd yr Ais i gerbydau.

O ganlyniad ni fyddai'r aelodau yn gallu cyrraedd y capel yn eu ceir na'u parcio yno.

Mae Cyngor Caerdydd yn dadlau eu bod wedi cysylltu'n uniongyrchol ā'r Tabernacl sawl gwaith i'w hysbysu ynglyn ag effaith y datblygiad ond nad oedden nhw wedi derbyn unrhyw ymateb ganddyn nhw ar y pryd.

Mae aelodau'r Tabernacl yn dod o ardal eang gyda rhai yn dod o'r Bont-faen, Pontypridd a Chasnewydd.

Heb amheuaeth mae'n peryglu dyfodol yr eglwys ac yn sicr yn peryglu'r gwasanaeth a wneir o'r adeiladau gan gyrff eglwysig, diwylliannol ac eraill ar hyn o bryd
Illtyd Lloyd, trysorydd y Tabernacl,
Dadl aelodau'r capel felly yw fod yn rhaid iddyn nhw ddefnyddio eu ceir ac nad yw teithio ar fws yn ymarferol.

"Mae'n ddrwg gennym glywed am bryderon cynulleidfa'r Tabernacl ond rhoddwyd caniatād cynllunio yn amodol ar dderbyn cytundebau cyfreithiol," medd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd.

"Fel gyda phob cais cynllunio dilynwyd trefn ymgynghori addas, ymgynghorwyd ā'r Tabernacl nifer o weithiau, gan gynnwys drwy lythyrau ar Dachwedd 12 2002 a Ebrill 25 2003 ynghyd ā rhoi gwahoddiad iddyn nhw ddod i'r pwyllgor cynllunio ond chafwyd dim ateb ganddyn nhw.

"Cafodd y cais ei hysbysebu ar y safle yn ogystal ag mewn erthyglau papur newydd ac arddangosfa gyhoeddus."

Nid dim ond ar ddydd Sul yn unig mae'r capel yn cael ei ddefnyddio, mae cyrff eraill yn defnyddio'r adeilad yn ystod yr wythnos.

Dywed Illtyd Lloyd, trysorydd y Tabernacl, nad yw'r aelodau yn anhapus ynglyn ā'r datblygiad yn gyffredinol ond eu bod yn gwrthwynebu troi'r Ais yn stryd i gerddwyr yn unig.

"Mi fyddai hynny yn gwahardd ein haelodau rhag dod ā'u ceir i'r Tabernacl ac rydyn ni wedi cael mynediad i'r Tabernacl ar hyd y cyfnod mae wedi bod mewn bodolaeth," meddai Mr Lloyd.

"Hefyd mae ein hawydd nid yn unig i ddarparu ar gyfer yr aelodau ond rydyn ni yn ymwybodol o'r gwasanaeth i'r gymuned ac mae'n golygu cynnal cyfarfodydd fel i'r digartref a'r anghenus."

'Perygl'

Mae aelodau'r capel yn dadlau nad yw'r awdurdodau wedi ystyried hyn wrth wneud eu cynlluniau.

Maen nhw'n dadlau y bydd cau'r ffordd yn peryglu dyfodol Y Tabernacl.

"Heb amheuaeth mae'n peryglu dyfodol yr eglwys ac yn sicr yn peryglu'r gwasanaeth a wneir o'r adeiladau gan gyrff eglwysig, diwylliannol ac eraill ar hyn o bryd," meddai Mr Lloyd.

"Rydyn ni'n ymwybodol iawn o'r peryg ac felly dyna pam fod yr aelodau yn benderfynol eu bod yn cadw'r hewl sy'n bod iddyn nhw ar hyn o bryd."

Wrth ymateb i'r sylwadau dywedodd llefarydd ar ran Gyngor Caerdydd bod y cynllun i ailddatblygu'r ardal o gwmpas yr Ais wedi cael caniatād cynllunio.

Pwysleisiodd y llefarydd bod y cyngor wedi dilyn y broses ymgynghori llawn arferol.

Dywedodd eu bod wedi cysylltu'n uniongyrchol ā'r Tabernacl ar fwy nac un achlysur i'w hysbysu ynglyn ag effaith y datblygiad, ond doedden nhw ddim wedi derbyn unrhyw ymateb ganddyn nhw ar y pryd.





Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^