Achosodd y Streic newid yn y gymdeithas
|
Roedd 1984 yn flwyddyn chwerw yn hanes Cymru a gweddill Prydain gyda chychwyn streic hir y glowyr.
Roedd hon yn streic genedlaethol a barodd am bron i 12 mis ac a effeithiodd ar gymunedau glofaol Prydain.
Effeithiwyd ar y cymunedau am fwy na blwyddyn ac fe newidiodd y ffordd o fyw yn y cymunedau am byth o ganlyniad i'r streic.
Fe achosodd ddrwgdeimlad a chaledi.
Cyfaddawdu
Achos y streic oedd bwriad y Bwrdd Glo i gau 20 o byllau a diswyddo 20,000 o lowyr.
Roedd yr arweinwyr glo yn gwrthwynebu hyn.
Doedd neb yn fodlon cyfaddawdu, neb yn derbyn safbwynt yr ochr arall a'r arweinwyr yn ddigyfaddawd.
Y Blaid Geidwadol a Margaret Thatcher oedd yn llywodraethu.
Margaret Thatcher oedd y prif weinidog ar y pryd
|
Arthur Scargill oedd Llywydd Undeb y Glowyr.
Roedd o'n barod i ddefnyddio'r streic fel arf i ddisodli rheolaeth y Ceidwadwyr a disodli'r Llywodraeth.
Roedd 'na amheuaeth a oedd y streic yn un gyfansoddiadol.
Wnaeth Undeb Cenedlaethol y Glowyr (UCG) ddim cynnal balot o'r holl aelodau er bod angen 55% o gefnogaeth yr aelodau i alw streic.
O Mawrth 6 1984 fe aeth y gwahanol ardaloedd allan ar streic fesul un gyda chefnogwyr brwd yn heidio i ardaloedd llai cefnogol.
Ychydig o gefnogaeth gafodd y streic gan y Blaid Lafur.
Glowyr y gogledd yn gweithio
Yn wir, wnaeth Neil Kinnock eu harweinydd ar y pryd, ddim ymuno'n swyddogol gyda'r llinell biced tan Ionawr 1985.
Yng Nghymru gwrthod streicio oedd canlyniad pleidlais yn Ne Cymru gyda dim ond 10 o'r 28 pwll yn cytuno i fynd ar streic.
Ond o fewn wythnos i gychwyn y streic fe lwyddodd picedwyr i gau'r pyllau eraill.
Roedd heddlu o bob cwr o Brydain yn cael eu galw i ofalu am y pyllau
|
Roedd glowyr Gogledd Cymru o blaid peidio streicio.
Er bod y 28 o byllau yn y de wedi cau, llwyddodd un o byllau'r gogledd, Y Parlwr Du yn Sir y Fflint, i barhau ar agor.
Roedd y cymunedau glofaol yn cefnogi'r streicwyr ac fe welwyd gwragedd yn amlwg iawn yn rhan o'r frwydr.
Bu gwragedd yn casglu arian a threfnu dosbarthu bwyd.
Roedd arian, bwyd a dillad yn brin ac roedd tlodi yn amlwg iawn yn y cymunedau.
Bu'r gwragedd yn sefyll ochr yn ochr â'u gwyr, brodyr, tadau a meibion ar y llinell biced.
Teyrngarwch
Roedden nhw hefyd yn picedu gweithfeydd dur fel Port Talbot.
Rhoddodd y streic hyder newydd i wragedd y glowyr a merched eraill.
Er bod y glowyr yn barod iawn i ddychwelyd at waith er mwyn ennill bara menyn doedden nhw ddim am dorri teyrngarwch i'r undeb.
Arthur Scagill oedd arweinydd y glowyr
|
Teimlad nifer oedd bod y streic wedi cael ei cholli yn y dyddiau cynnar am nad oedd 'na gefnogaeth i'r streic gan yr undebau llafur eraill.
Cafodd Cyngres Cymru i gefnogi'r Cymunedau Glofaol ei sefydlu a oedd yn cynnwys pobol o eglwysi, capeli, y Blaid Lafur a Phlaid Cymru a oedd yn gorff dylanwadol.
Roedd gweithwyr chwareli'r gogledd a ffermwyr y canolbarth yn cefnogi'r glowyr yn ne Cymru.
Bu nifer yn casglu arian a bwyd yn y gogledd er mwyn eu gyrru i'r de.
Bu i'r glowyr dalu yn ôl i'r chwarelwyr drwy eu cefnogi pan oedden nhw ar streic yn 1985-6.
Daeth streic y glowyr i ben yn 1985.