Cyflwynwyd casgliad gwerthfawr o ffotograffau'n gysylltiedig â Gwynfor Evans, cyn-AS cynta Plaid Cymru, i'r Llyfrgell Genedlaethol.
Lluniau: Buddugoliaeth Gwynfor yng Nghaerfyrddin
|
Mae'r pedwar bocs yn cynnwys cannoedd o ffotograffau o'r pumdegau hyd at y saithdegau cynnar.
Ymwneud â'r cyfnod pan enillodd Gwynfor Evans is-etholiad hanesyddol Caerfyrddin dros Blaid Cymru yn 1966 y mae'r rhan fwya.
Rhodri Glyn Thomas, AC Plaid Cymru Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, gyflwynodd y casgliad ddydd Gwener.
"Mae'r casgliad o ffotograffau'n gofnod gwleidyddol pwysig o gyfnod gwleidyddol diddorol yn hanes Cymru," meddai John Graham Jones, Pennaeth Archif Wleidyddol Cymru y Llyfrgell Genedlaethol.
"Rydyn ni'n gwerthfawrogi cyfraniad Plaid Cymru at gyfoethogi casgliad cenedlaethol yr Archif Wleidyddol ar gyfer pobol Cymru a haneswyr y dyfodol.
"Rwy'n sïwr fod gan bleidiau eraill gasgliadau pwysig a diddorol yn eu meddiant a hoffem glywed ganddyn nhw."
Cafwyd hyd i'r lluniau yn swyddfa Plaid Cymru yn Rhydaman
|
Darganfuwyd y pedwar bocs o ffotograffau mewn cwpwrdd yn swyddfa Plaid Cymru yn Heol y Gwynt, Rhydaman, wrth i staff dacluso'r stafell.
Mae'n debyg i'r lluniau ddod yno o swyddfa'r Blaid yng Nghaerfyrddin.
"Mae'n anrhydedd i geisio llenwi esgidiau cawr gwleidyddol fel Gwynfor Evans, dyn a fu'n uchel ei barch gan bobol Sir Gaerfyrddin a Chymru ac a ddyfarnwyd yn un o brif arwyr Cymru mewn pôl diweddar," meddai Rhodri Glyn Thomas.
"Rwy'n sïwr y bydd yn gasgliad diddorol fydd o ddefnydd i haneswyr y dyfodol.
"Rydyn ni'n gwerthfawrogi'r ffaith fod Plaid Cymru Caerfyrddin wedi cadw'r ffotograffau yma mewn cystal cyflwr a'u cyflwyno i'r Llyfrgell," meddai William Troughton, Pennaeth Casgliadau Ffotograffig y Llyfrgell.
"Ysgwn i sawl bocs arall o ffotograffau diddorol a phwysig sy'n llechu yng nghypyrddau swyddfeydd gwleidyddol Cymru?"
Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn chwilio am eich help chi er mwyn cael mwy o wybodaeth am luniau yn ymwneud â gyrfa Gwynfor Evans.
Ewch i ddarllen mwy