Mae disgwyl i'r prosiect greu 600 o swyddi
|
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi rhoi sêl bendith i bentref gwyliau'r Garreg Las.
Cymeradwyodd aelodau'r Pwyllgor Rheoli Datblygu y cynllun £45m yn Rhagfyr.
Ond roedd rhaid aros 21 diwrnod am fod pryder am bolisi cynllunio awdurdod y parc.
Penderfynodd y Pwyllgor Rheoli Datblygu o blaid y cynllun yn Arberth er gwaetha argymhelliad eu swyddogion.
Roedd gwrthwynebwyr yn gobeithio y byddai'r cynulliad yn ymyrryd.
Ond dywedodd cefnogwyr y ganolfan wyliau y byddai 600 o swyddi llawn amser yn cael eu creu.
Roedd rhai o blaid ac yn erbyn y cynllun
|
Mae'n bosib y bydd gwrthwynebwyr, sy'n pryderu y bydd y cynllun yn difetha'r amgylchedd, yn cymryd camau cyfreithiol.
Yn Rhagfyr dywedodd Llywodraeth y Cynulliad nad oedd unrhyw achos iddyn nhw edrych ar y cais ac mai mater i awdurdod y parc oedd hyn.
Dywedodd Ruth Chambers, pennaeth polisi Cyngor y Parciau Cenedlaethol, fod y penderfyniad yn "siomedig iawn".
Dywedodd nad oedd "cynsail o gwbl i gynlluniau ar gyfer canolfannau gwyliau o unrhyw fath mewn unrhyw barc cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr" ac y byddai hyn yn "creu drwg" i'r parc.
"Am y rhesymau yma roedden ni wedi disgwyl y byddai'r Cynulliad yn ymyrryd ac yn dechrau gweithredu eu cyfrifoldebau i ddiogelu tirlun y parciau cenedlaethol," meddai.
Roedd William McNamara, prif weithredwr cynllun y Garreg Las, yn gobeithio y byddai'r gwaith ar y safle ger Trefdraeth wedi dechrau yn 2003 gan greu 340 o gabanau gwyliau cyn agor yn niwedd 2005.
Mae Christine Gwyther, yr AC lleol, yn cefnogi'r cynllun ac mae hi wedi galw ar y gwrthwynebwyr i gydweithio i sicrhau na fydd yr amgylchedd yn dioddef.