BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 24 Ionawr, 2004, 17:19 GMT
Lladd dyn ifanc mewn damwain
Yr heddlu
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth am y ddamwain

Fe gafodd dyn ifanc ei ladd mewn damwain ffordd ym Mhort Talbot yn oriau mān bore dydd Sadwrn.

Roedd y dyn 18 oed yn gyrru car Toyota Corolla tywyll pan darodd bolyn lamp at Ffordd Cwmafan, y B4286.

Digwyddodd y ddamwain tua 0015GMT.

Dywed yr heddlu nad oedd cerbyd arall yn y ddamwain.

Maen nhw'n awyddus i ddod o hyd i dacsi y maen nhw'n ei gredu oedd yn teithio i'r un cyfeiriad ā'r car ac yr oedd y car wedi ei oddiweddyd ychydig cyn y ddamwain.

Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un a welodd y ddamwain neu a welodd y Corolla yn cael ei yrru cyn y ddamwain i gysylltu ā nhw ar 01656 655555.





Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^