BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 23 Ionawr, 2004, 09:10 GMT
Islwyn Ffowc Elis yn marw
Arloeswr: Islwyn Ffowc Elis

Mae'r nofelydd a'r beirniad llenyddol, Islwyn Ffowc Elis, wedi marw.

Bu farw'n dawel yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin wedi cyfnod o salwch.

Roedd yn 79 oed ac mae'n gadel gwraig a theulu.

Roedd yn un o nofelwyr mwya'r Gymraeg yn y ganrif ddiwetha a'r llenor proffesiynol cynta.

Cafodd ei eni yn Wrecsam a'i fagu yn Nyffryn Ceiriog.

Yn Ysgol Ramadeg Llangollen y cafodd yr ysfa i lenydda'n Gymraeg er mai Saesneg oedd iaith yr ysgol.

Dyw hi ddim yn ormodiaith i ddweud fod Islwyn wedi achub y nofel Gymraeg
Dr Meic Stephens

Bu'n fyfyriwr ym Mangor a hanner canrif yn ddiweddarach cafodd ei anrhydeddu'n Gymrawd.

Pan oedd yn fyfyriwr rhannodd lety 'r diweddar Barchedig Robin Williams a fu'n gyfaill oes iddo ac a fu farw union fis yn l.

Roedd Mr Elis yn aelod o'r Triawd y Coleg gwreiddiol ond oherwydd afiechyd ar ei frest roedd yn rhaid iddo roi'r gorau iddi.

Cymerodd Cledwyn Jones ei le.

Ar l gadael coleg aeth yn weinidog i Lanfair Caereinion ac oddi yno i Niwbwrch, Ynys Mn.

Darlithio

Ond doedd ei gyfnod fel gweinidog ddim yn hapus ac ysgrifennu oedd ei ddileit.

Roedd Islwyn Ffowc Elis yn un o gewri llenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif
Athro Derec Llwyd Morgan

Bu'n gweithio i'r BBC, y Cyngor Llyfrau ac yn darlithio, yn gynta yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, ac wedyn ym Mhrifysgol Llambed.

Roedd yn genedlaetholwr a safodd fel ymgeisydd dros Blaid Cymru ddwywaith yn y 60au, yn Is-Etholiad Maldwyn 1962 ac yn yr Etholiad Cyffredinol yn yr un etholaeth yn 1964.

Dywedodd Dr Robin Chapman, awdur bywgraffiad am y nofelydd a gafodd ei chyhoeddi y llynedd, nad oedd Mr Elis yn hapus yn y byd gwleidyddol.

Roedd yn teimlo'n anghyffyrddus, meddai.

Ond cafodd iawn am ei ymdrechion pan oedd Gwynfor Evans yn fuddugol yng Nghaerfyrddin yn 1966.

Poblogaidd

"Fo oedd swyddog cyhoeddusrwydd y blaid bryd hynny a dwi'n meddwl ei bod yn deg dweud na fyddai Plaid Cymru wedi ennill yng Nghaerfyrddin yn 1966 hebddo fo."

Cyhoeddodd Mr Elis rai o nofelau mwya poblogaidd yr iaith Gymraeg, gan gynnwys Cysgod y Cryman, Yn l i Leifior ac Wythnos yng Nghymru Fydd.

"Roedd Islwyn Ffowc Elis yn un o gewri llenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif," meddai'r Athro Derec Llwyd Morgan.

"Fe ddaeth i amlygrwydd gyntaf pan enillodd Cyn Oeri'r Gwaed y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 1951.

"Rhwng y flwyddyn honno a 1961 fe gyhoeddodd bump o nofelau mawr graenus darllenadwy a ddaliodd mewn arddull loyw ysbryd y Gymru gyfnewidiol oedd ohoni a'i dal mor wych fel y daeth y llyfrau yn rhan o'n hymwybod cenedlaethol ni.

"Roedd llwyddo i gyfansoddi swm mawr o ryddiaith afaelgar ac ennill miloedd o ddarllenwyr i'n llenyddiaeth yn gamp ryfeddol bryd hynny," meddai.

Llyfr y ganrif

Mae Cysgod y Cryman, a gafodd ei chyhoeddi yn 1953, wedi gwerthu mwy o gopau nac unrhyw nofel Gymraeg arall ac fe gafodd ei dyfarnu'n Llyfr y Ganrif.

"Cyrhaeddodd y nofel ar y foment iawn yn 1953," meddai'r beirniad llenyddol a'r awdur Meic Stephens.

"Dyw hi ddim yn ormodiaith i ddweud fod Islwyn wedi achub y nofel Gymraeg."

Os mai Daniel Owen gychwynnodd y nofel Gymraeg, Islwyn Ffowc Elis a'i llusgodd i mewn i'r ganrif ddiwethaf a denu darllenwyr newydd.

"Roedd yn ddylanwad aruthrol ar nofelwyr fel Eurig Wyn, Alun Jones a Bethan Gwanas sy'n credu fod angen stori afaelgar," meddai'r Dr Lowri Davies.

"Rwy'n ei gofio fel ffrind annwyl a diymhongar," meddai'r Dr Stephens.




HEFYD:
Talu teyrnged i Islwyn Ffowc
06 Awst 03  |  Newyddion



Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^