Mae'r Byd yn chwilio am danysgrifwyr
|
Gallai papur dyddiol yn y Gymraeg gael ei gyhoeddi o fewn blwyddyn.
Dyna gasgliad astudiaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Erbyn hyn, mae cefnogwyr y syniad wedi dechrau edrych am danysgrifwyr.
Y bwriad yw cyhoeddi Y Byd bum niwrnod yr wythnos.
Mae ymchwil Canolfan Mercator yn Aberystwyth wedi dangos y byddai traean cartrefi Cymraeg eu hiaith yn dymuno darllen papur dyddiol yn y Gymraeg.
Ac mae cwmni wedi cael ei sefydlu.
Dywedodd Ned Thomas o bapur Y Byd fod eu targedau'n realistig o ran gwerthiant.
Cefnogaeth a phryder
"Yn y tymor byr, yn y flwyddyn gyntaf, ry'n ni'n chwilio am 5,000 o danysgrifwyr a gwerthiant achlysurol o 2,000 yn y siopau.
"Ry'n ni'n meddwl fod modd i ni gyrraedd 15,000, falle mwy yn y pendraw."
 |
O ran statws yr iaith Gymraeg a safle Cymru yn y byd, mae'n gyfle gwych ond o ran y byd busnes, dwi ddim yn gweld y syniad yn gweithio o gwbl
|
Mae Dylan Iorwerth, golygydd-gyfarwyddwr y cylchgrawn wythnosol, Golwg, yn croesawu'r fenter.
"Yn amlwg, byddai unrhyw un yn falch iawn o weld papur newydd dyddiol Cymraeg llwyddiannus.
"Ond mae rhywfaint o bryder y gallai'r ymgais ei hun wneud rhywfaint o ddrwg i beth sydd yno'n barod."
Honnodd Rob Jones, Golygydd Y Cymro, nad oedd digon o gynulleidfa ar gyfer papur dyddiol.
"O ran statws yr iaith Gymraeg a safle Cymru yn y byd, mae'n gyfle gwych ond o ran y byd busnes dwi ddim yn gweld y syniad yn gweithio o gwbl oherwydd dwi ddim yn credu bod 'na gynulleidfa i bapur dyddiol Cymraeg."
Yn ystod y misoedd nesa bydd ymgyrch i ddenu tanysgrifwyr i'r papur.