BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 20 Ionawr, 2004, 15:03 GMT
Môn: Adolygu diswyddo
Hawk jet
Mae dros 600 o weithwyr yn cynnal a chadw'r Hawk yn Y Fali
Wedi cyfarfod rhwng yr undeb a rheolwyr Babock i drafod colli swyddi posib yng Nghanolfan y Llu Awyr yn y Fali, Môn, dywedodd y cwmni y bydd yn adolygu ei sefyllfa ynglýn â diswyddiadau.

Mi fydd cyfarfod arall yn cael ei gynnal o fewn yr wythnosau nesaf.

Wedi'r cyfarfod, dywedodd Tom Jones o undeb y T&G ei fod yn obeithiol na fydd cymaint â 60 yn cael eu diswyddo erbyn hyn.

Cytundeb

Ym mis Ebrill bydd cwmni Babcock yn cymryd y cytundeb oddi wrth Brama i gynnal a chadw awyrennau yno.

Mae dros 600 o bobol yn cael eu cyflogi yn y Fali gan gynnal a chadw awyrennau Hawk.

Credir bod y gweithwyr wedi derbyn llythyrau yn eu hysbysu y gallai hyd at 59 o swyddi gael eu colli.

Mae hyn yn newyddion drwg unwaith eto i Fôn a hynny rai dyddiau wedi i ffatri gemegau Great Lakes gau yn Amlwch gan golli 100 o swyddi.

"Ers canol y flwyddyn ddiwetha dyw swyddi gwag ddim wedi cael eu llenwi gan fod Babcock yn cymryd drosodd ar 1 Ebrill ac mae'n bosib y bydd 60 o weithwyr yn mynd," meddai Tom Jones cyn y cyfarfod.

"Fedr y nifer godi hyd at 100 ac yn Ynys Môn gyda'r diweithdra mae hynny'n aruthrol."

'Sioc'

"Mae hyn yn sioc," meddai Gareth Winston Roberts sy'n gyfrifol am ddatblygu economaidd ar Gyngor Sir Ynys Môn.

"Mewn cyfarfod tua deufis a hanner yn ôl roedd trafodaethau rhwng y cwmni a'r cyngor yn bositif.

"Roedd sôn am ddatblygu'r safle a chreu swyddi.

"Fel cyngor sir, dydyn ni ddim yn gallu gwneud dim am hyn.

"Yr unig beth rydyn ni'n gallu ei wneud yw hybu a datblygu gweithlu Môn gyda phartneriaid."

Fis Tachwedd cyhoeddodd Faun, sy'n cynhyrchu cerbydau casglu gwastraff a pheiriannau glanhau ffyrdd, bod 30 o weithwyr yn Llangefni yn cael eu diswyddo.




HEFYD:
Diwedd y lein i waith cemegol
15 Ion 04  |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^