Mae disgwyl i'r prosiect greu 600 o swyddi
|
Mae Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol wedi cael eu beirniadu am beidio ag ymyrryd yn y cynlluniau ar gyfer canolfan a phentref gwyliau allweddol yng ngorllewin Cymru.
Yn ôl corff goruchwylio sy'n monitro datblygiadau mewn parciau cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr mae'r penderfyniad yr wythnos yma i beidio ag ymyrryd yng nghynlluniau'r Garreg Las yn gosod
cynsail peryglus.
Yn ôl cefnogwyr y ganolfan wyliau bob tywydd gwerth £60m, y byddai rhan ohoni'n cael ei hadeiladu o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, fe fydd 600 o swyddi llawn amser yn cael ei greu.
Ond mae'r rhai sydd yn erbyn y cynllun yn pryderu y bydd hyn yn difetha'r amgylchedd lleol ac maen nhw wedi rhybuddio y gallen nhw lansio sialens gyfreithiol os fydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cefnogi'r cynllun mewn cyfarfod yn ddiweddarach yn y mis.
Yn gynharach yn yr wythnos fe ddywedodd Llywodraeth y Cynulliad nad oedd yma unrhyw achos iddyn nhw edrych ar y cais ac mai mater i Awdurdod y Parc oedd hyn.
Siom
Disgrifiodd Ruth Chambers, pennaeth polisi Cyngor y Parciau Cenedlaethol, y penderfyniad fel un "siomedig iawn".
Dywedodd nad oedd "cynsail o gwbl i gynlluniau ar gyfer canolfannau gwyliau o unrhyw fath mewn unrhyw barc cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr" ac y byddai hyn yn "creu drwg" i'r parc.
"Am y rhesymau yma roedden ni wedi disgwyl y byddai'r Cynulliad yn ymyrryd ac yn dechrau gweithredu eu cyfrifoldebau i ddiogelu tirlun y parciau cenedlaethol," meddai.
Mae 'na wrthwynebiad i'r cynllun yn yr ardal
|
"Mae bobol yn bryderus am yr effaith y bydd y cynllun yn ei gael ar y parc a'r cynsail y bydd hyn yn ei osod ar gyfer datblygiadau mawr eraill mewn paciau cenedlaethol.
"Rydan ni wedi cael ein gadael yn meddwl os nad ydi'r Cynulliad yn ymyrryd yn yr achos yma, na fyddan nhw'n ymyrryd mewn unrhyw fater cynllunio."
Roedd William McNamara, Prif Weithredwr cynllun y Garreg Las yn gobeithio y byddai'r gwaith ar y safle ger Trefdraeth wedi dechrau eleni gan greu 340 o gabanau gwyliau cyn agor yn niwedd 2005.
Mae Christine Gwyther, yr AC lleol, yn cefnogi'r cynllun ac mae hi wedi galw ar y gwrthwynebwyr i gydweithio i sicrhau na fydd yr amgylchedd yn dioddef.
Mae disgwyl i Awdurdod y Parc wneud eu penderfyniad ar y cynllun mewn cyfarfod ar 28 Ionawr.