BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 14 Ionawr, 2004, 13:30 GMT
Dewis enillwyr RAP 2004
TNT
TNT - Un o'r grwpiau sy'n perfformio yn y noson wobrwyo

Bydd cyfle i ddewis enillwyr dau gategori yng ngwobrau RAP 2004 sy'n anrhydeddu artistiaid roc a phop 2003.

Bob blwyddyn mae BBC Radio Cymru wedi anrhydeddu'r prif artistiaid yn Noson Gwobrau Roc a Phop neu Rap.

Bydd y noson eleni ar 7 Chwefror yn Neuadd Pritchard Jones ym Mangor.

Yn ogystal Ô gwobrwyo artistiaid, bydd y bandiau TNT, Texas Radio Band, Bob Delyn a'r Ebillion a Kentucky AFC yn perfformio'n fyw.

CATEGORIAU RAP 2003
EP/Sengl Orau
Albwm Orau
Grwp ddaeth i amlygrwydd
Cyfansoddwr Gorau
Band Byw Gorau
Sesiwn C2'r flwyddyn
Cynhyrchydd Gorau
Digwyddiad Byw Gorau'r Flwyddyn
Artist Benywaidd Gorau
Artist Gwrywaidd Gorau
Grwp/Artist Pop y Flwyddyn (categori newydd ar gyfer eleni)
Band y Flwyddyn
Cyfraniad Arbennig

Caiff y noson ei darlledu ar C2, BBC Radio Cymru.

Mae 13 categori eleni ac mae cyfle i wrandawyr a phobol sy'n mwynhau cerddoriaeth bleidleisio mewn dau o'r categor´au.

Dewis y bobol fydd yn ennill gwobr Band y Flwyddyn a Digwyddiad Byw y Flwyddyn.

Y llynedd Pep Le Pew oedd Band y Flwyddyn a Gigs Cymdeithas yr Iaith oedd Digwyddiad Byw y Flwyddyn.

Y Flwyddyn flaenorol Anweledig a Sesiwn Fawr Dolgellau oedd yr enillwyr.

I bleidleisio gallwch anfon e bost at rap@bbc.co.uk neu ddanfon neges testun ar 07786 201030 neu ar y ff˘n rhwng 1500 -1700 GMT o ddydd Llun i ddydd Gwener ar 08703 500 500 cyn 17 Ionawr.

Panel RAP, sy'n cynnwys unigolion, y labeli recordio, cyhoeddiadau cerddoriaeth, trefnwyr gigs ac yn y blaen fydd yn dewis yr enillwyr eraill.




HEFYD:
RAP: Dafydd Iwan yn derbyn anrhydedd
10 Chwef 03  |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^