Mae mwy o ystadegau'r Cyfrifiad wedi eu cyhoeddi ddydd Mercher
|
Mae mwy a mwy o drigolion Cymru wedi cael eu geni dros y ffin ac mae'r boblogaeth yn heneiddio.
Mae'r ymwybyddiaeth genedlaethol yn gryf a hynny'n cael ei adlewyrchu gan gynnydd yn y nifer sy'n siarad Cymraeg, yn arbennig ymysg yr ifanc.
Dyna ddatgelir mewn cyhoeddiad o'r enw Focus on Wales: Its People a gyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau.
Roedd yna 2.9m o bobol yn byw yng Nghymru ar ddiwrnod Cyfrifiad 2001, cynnydd o 1% ers 1991.
Y cyfartaledd oedran oedd 36 oed o'i gymharu â 34 yn 1981.
Roedd nifer y rhai sy'n siarad Cymraeg yn 21%, 20% yn gallu ei darllen a 18% yn gallu ei siarad.
Plant ac oedolion ifanc oedd fwyaf tebyg o gael y sgiliau hyn.
Roedd 67% yn disgrifio eu hunain yn Gymry; 60% yn Gymry'n unig, 7% arall yn Gymry ac yn Brydeinwyr.
Er na chafwyd blwch ticio i nodi pwy oedd yn Gymry, roedd 418,00 (14%) wedi nodi eu bod yn Gymry.
Yn y gogledd-orllewin a'r gorllewin oedd y mwyafrif o'r rhain.
Anabledd
Roedd gan 23% rhyw fath o anabledd, gyda 12% yn dweud nad oedd eu hiechyd yn dda.
Yng Nghyfrifiad 1951 roedd 83% o boblogaeth Cymru wedi cael eu geni yma; erbyn 2001 roedd hyn wedi gostwng i 75%.
Ac mae yna fwy o bobol o gefndiroedd ethnig yma - 6%, a'r rheiny i'w cael yn bennaf yng Nghaerdydd (8% o boblogaeth y ddinas), Casnewydd (5%) ac Abertawe (2%).
Roedd 72% o'r boblogaeth yn galw eu hunain yn Gristnogion, gyda Mwslemiaid ond yn 1%. Yng Nghaerdydd, mae 4% o'r dinasyddion yn dilyn crefydd Islam.
Yn 2001, roedd 2.8m o bobol Prydain wedi'u geni yng Nghymru, gydag 20% o'r rhai gafodd eu geni yng Nghymru yn byw rwan yn Lloegr.
Yng Nghaerdydd y ceir y nifer uchaf o rai efo graddau yn byw (22% o'r trigolion), gyda'r cyfartaledd isaf ym Mlaenau Gwent. (5%).
Cyn cymryd costau rhedeg tŷ i ystyriaeth, roedd 20% o'r boblogaeth yn byw ar incwm isel, hyn yn codi i 25% o gymryd costau rhedeg tŷ i ystyriaeth.