BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sul, 4 Ionawr, 2004, 10:22 GMT
Cyhoeddi dathliadau Glyndwr
Owain Glyndwr's coronation
Mae disgwyl miloedd i gofio coroni Owain Glyndwr
Mae 'na ddathliadau yn cael eu trefnu ar gyfer yr haf i ddathlu 600 mlynedd ers i Owain Glyndwr orymdeithio i mewn i Fachynlleth a'i goroni yn Dywysog Cymru.

Fe ddigwydd y coroni a sefydlu'r senedd gynta i Gymru ym Machynlleth ym mis Mehefin 1404.

Er nad ydi'r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd wedi trefnu unrhyw ddathliadau eto, mae mudiad gwirfoddol wedi camau ar y blaen i baratoi dathliadau dros yr haf a hynny dros Gymru.

Machynlleth fydd canolbwynt blwyddyn o ddathlu i gofio coroni Owain Glyndwr fel Owain IV.

Uchafbwynt y dathliadau fydd penwythnos ym Machynlleth 18-21 Mehefin.

Annibyniaeth

Fe fydd clefyd arbennig yn cael ei chyflwyno i dref Machynlleth i gofio camp y gwrth-ryfelwr am annibyniaeth i Gymru oddi wrth Loegr.

Mae'n bosib y bydd yr holl ddathliadau yn rhoi hwb i dwristiaeth y dref yn enwedig os y bydd y bobol yn cymeryd diddordeb.

Ymhlith rhai o'r digwyddiadau mae disgwyl i ddyfodiad Glyndwr i mewn i dref Machynlleth ar gefn ceffyl gael ei ail greu.

Cafodd Llysgenhadaeth Glyndwr ei sefydlu yn 1999 ar gyfer y pwrpas o hyrwyddo gwybodaeth am Owain Glyndwr ac maen nhw'n trafod gyda holl gynghorau Cymru am ffyrdd i nodi'r achlysur.

"Rydym yn gweithio gyda chymunedau sydd chysylltiad Glyndwr, fel Machynlleth, Harlech a Dolgellau, i nodi'r achlysur," meddai Sin Ifan o'r Llysgenhadaeth.

Senedd-dy Owain Glyndwr
Fe fydd y clefydd yn cael ei gadw yn Senedd-dy Glyndwr

Fe feirniadodd Ms Ifan y Cynulliad am ddangos cynllied o ddiddordeb yn nathliadau 600mlwyddiant.

"Rydym wedi cynnig degau o syniadau ar gyfer nodi'r dathlu ac mae eu diffyg ymateb yn siomedig iawn."

Gobaith Ms Ifan ydi y bydd ysgolion a chymdeithasau yn cymeryd rhan yn y dathliadau yn ystod Wythnos Genedlaethol Glyndwr.

"Mae'n bosib y bydd nifer yn dymuno ymweld Machynlleth a'r ardal gan gynnwys Senedd-d Glyndwr, Celtica ac Eglwys Glyndwr ym Mhennal."

Dywedodd clerc cyngor Machynlleth John Parsons bod unrhyw ddigwyddiad yn mynd i fod yn hwb i ymwelwyr ymweld 'r dref.

"Fe fydd yn anrhydedd arbennig i ni hefyd i dderbyn clefyd seremonol i'w gadw yn y dref."

Dywedodd llefarydd ar ran y Cynulliad eu bod yn ystyried ar hyn o bryd dathlu'r digwyddiad allweddol yma yn hanes Cymru.




HEFYD:
Pwy yw arwyr Cymru?
08 Medi 03  |  Newyddion
Cadair deilwng o Glyndwr
25 Gorff 03  |  Newyddion
Cofio cipio castell y Saeson
06 Gorff 03  |  Newyddion
Darganfod rhan o gastell Glyndwr
29 Ebr 03  |  Newyddion
Gorymdaith i gofio Glyndwr
22 Chwef 03  |  Newyddion
Codi cofeb 'deilwng' i Glyndwr
24 Ion 03  |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^