Yn beicio a mynydda; Alun Pugh
|
Mae'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn wynebu argyfwng posib oherwydd gordewdra, medd Gweinidog Chwaraeon y Cynulliad.
Mae Alun Pugh wedi dweud fod Cymru ymhlith y gwledydd mwya diog yn Ewrop o ran cadw'n heini a bod nifer y rhai sy'n or-dew yn codi.
Os yw'r duedd yn parhau, meddai, bydd pwysau ychwanegol ar adnoddau'r Gwasanaeth Iechyd.
Dim ond 28% o oedolion yng Nghymru sy'n cadw'n heini'n gyson ac mae'r Cynulliad wedi dweud fod hyn wedi creu baich ariannol o £100m y flywddyn.
Dywedodd Mr Pugh nad oedd cadw'n heini'n golygu gwario'n ddrud ar ymuno â champfa.
'Lleia heini'
"Dyna pam rydw i'n annog pobl Cymru i feddwl o ddifrif eleni am ffyrdd o wneud mwy o ymarfer corff drwy gerdded i'r ysgol, nofio neu feicio gyda gweddill y teulu," meddai.
Dywedodd fod hyrwyddo chwaraeon ac ymarfer corff yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth y Cynulliad.
"Os gallwn ni wella ffitrwydd y Cymry, byddwn wedi cymryd camau breision i wella'n hiechyd.
"Cymry yw'r bobol leia' heini yn Ewrop.
"Rydyn ni'n llai heini na'r Saeson.
"Mae cyflwr gordewdra yn cyfrannu at achosion clefyd y siwgwr, canser a chlefyd y galon."
Fis Ionawr mae arbenigwyr byd iechyd a hamdden yn cynnal cynhadledd i drafod argymhellion, gan gynnwys hyrwyddo dull mwy iach o fyw, annog mwy o fenywod i gymryd rhan mewn chwaraeon a datblygu doniau chwaraeon.
Eleni lansiodd Mr Pugh gynllun 20-mlynedd i sicrhau bod Cymru ar yr un lefel â gwledydd fel y Ffindir lle mae bron i 70% o'r boblogaeth yn cadw'n heini.