BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 19 Rhagfyr, 2003, 16:19 GMT
Gerddi'r byd o blaid yr Ardd
Yr Ardd Fotaneg
Gwrthododd y Gweinidog Diwylliant roi mwy o arian i'r Ardd

Mae gerddi botaneg o'r Alban i Awstralia wedi dangos eu cefnogaeth i Ardd Fotaneg Cymru sydd mewn trafferthion ariannol.

Cafodd gwylnos ei chynnal y tu allan i'r T Gwydr Mawr yno nos Wener.

Mae'r Ardd eisoes wedi derbyn negeseuon o gefnogaeth o America, Cymru, Lloegr, Yr Alban, Gogledd Iwerddon, Gweriniaeth Iwerddon, Gorllewin Awstralia, De Cymru Newydd, De Affrica, Yr Almaen, Chile, Sbaen, Ynysoedd Dedwydd, Alaska, Seland Newydd, India, Canada, Namibia, Slofenia, Yr Eidal, Portiwgal a Gwlad Belg.

Lluniau

Maen nhw wedi derbyn lluniau o weithgareddau'n eu cefnogi o Ardd Fotaneg Missouri America, Gardd Fotaneg Belfast, Gardd Fotaneg Genedlaethol Glasnevin yn Nulyn, Gardd Fotaneg Prifysgol Bryste, Gerddi Botaneg Brenhinol Kew, y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol, Gerddi Botaneg Caeredin, Kings Park a Gardd Fotaneg Perth Gorllewin Awstralia, Gardd Fotaneg Prifysgol Caergrawnt a Gardd Fotaneg Prifysgol Rhydychen.

Wedi'r wylnos nos Wener cafwyd gwasanaeth carolau.

Rheolwyr yr Ardd sydd wedi trefnu'r digwyddiadau yma ac maen nhw'n gobeithio y bydd cannoedd o bobol yn dod.

Daw hyn wedi i Ymddiriedolwyr yr Ardd Fotaneg gael cynnig ddydd Llun allai achub ei dyfodol.

Yr wythnos ddiwethaf cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad na fyddai'n rhoi mwy o arian i'r Ardd sydd dyledion o 2.8m.

Cyfarfu'r ymddiriedolwyr derbynwyr ddydd Llun ond ni ddaethpwyd i benderfyniad oherwydd eu bod wedi derbyn y cynnig.

Canhwyllau

Cafodd canhwyllau eu cynnau y tu allan i'r adeilad a goleuadau cryf y tu mewn cyn eu diffodd yr un pryd.

Mae'r golau, meddai'r trefnwyr, i fod i gyfleu faint y mae pobol Cymru yn cefnogi'r Ardd.

Cafodd coelcerth ei chynnau, symbol o fflamau'r Ddraig Goch.

Yn perfformio yn y gwasanaeth carolau roedd y tenor enwog Timothy Evans a Chr Cantorion y Rhyd.




GWYLIWCH A GWRANDEWCH
Adroddiad Alun Lenny BBC Cymru
"Roedd tua mil yn amgylchynu'r T Gwydr Mawr"



HEFYD:
'Dylai'r Ardd fod yng Nghaerdydd'
12 Rhag 03  |  Newyddion
O'r dechrau i'r diwedd
10 Rhag 03  |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^