Adroddiad Alwen Williams
Newyddion BBC Cymru
|
Gallai corff sydd newydd ei sefydlu olygu bod rhywun yn teithio o un pen o'r wlad i'r llall mewn cwch.
Mi fydd datblygu'r rhwydwaith yn help i'r ardal
|
Un o amcanion adran Gymreig a'r Gororau Dyfrffyrdd Prydain ydi datblygu camlesi'r wlad.
Eu gobaith yn y pen draw ydi eu huno fely gall rhywun deithio o'r de i'r gogledd.
Un o'r dyfrffyrdd hyn yw Camlas Maldwyn.
Bydd cychod yn cludo teithwyr ar hyd y gamlas yn ystod misoedd yr haf.
A hwn yw'r cyfle i baratoi ac adnewyddu rhannau o'r gamlas yn barod ar gyfer y tymor ymwelwyr nesaf.
Dyfrffyrdd Prydain ydi'r corff sy'n gyfrifol am gynnal camlesi Cymru.
Calch
Gyda chefnogaeth y Cynulliad, mae'n anelu at ddatblygu Camlas Maldwyn.
Pan oedd yn ei hanterth, hi oedd traffordd y Gororau, yn cludo calch o Lanymynech i'r Trallwng a'r Drenewydd, a thros y ffin i Loegr.
Mae Dyfrffyrdd Prydain yn gobeithio ailadeiladu rhan o'r gamlas cyn ei chysylltu efo Camlas Llangollen ychydig o filltiroedd i'r gogledd.
Byddai hynny'n ei gwneud yn rhan o rwydwaith o gamlesi sy'n cysylltu gwahanol rannau o Gymru a Lloegr.