Mae Ioan Gruffudd yn un o sêr y ffilm
|
Mi allai ffilm Gymraeg gael ei dangos yn America gyda hyn.
Dal: Yma/Nawr ddaeth â Gwyl Sgrîn Caerdydd i ben yr wythnos ddiwethaf, ac mi allai gael ei dangos yn y Lincoln Center, Efrog Newydd, y flwyddyn nesaf.
Yn ôl y cyfarwyddwr, Marc Evans, mae'r ffilm yn ymgais uchelgeisiol i ddweud stori'r traddodiad barddol Cymraeg.
Mae'r cerddi'n cysylltu Canu Aneirin a heddiw gan ddefnyddio doniau Cerys Mathews, Siân Phillips, John Cale a Ioan Gruffudd ymhlith cast disglair iawn.
Dywedodd Marc Evans mai ei deimlad o gyda'r ffilm, oedd "bod angen ymateb rhywfodd neu gilydd mewn ffordd sinematig i'r traddodiad yma sydd mor ganolog i ni fel cenedl".
Fiction Factory o Gaerdydd sy'n gyfrifol am y ffilm, ac yn ôl y cynhyrchydd Ynyr Williams y cam nesaf fydd cael cynulleidfa ryngwladol i'r ffilm.
Mae Siân Phillips yn rhan o'r cynhyrchiad
|
Yn ddiweddar bu yng Ngogledd America gyda MasnachCymru Rhyngwladol, uned creu busnes tramor y Cynulliad, ble wnaeth nifer o gysylltiadau gwerthfawr.
"Bu MasnachCymru yn help mawr yn trefnu cyfarfod wyneb yn wyneb â chynrychiolwyr y Lincoln Center," meddai.
"Y canlyniad yw ein bod rwan yn gobeithio dangos Dal: Yma/Nawr yn Efrog Newydd fis Mawrth neu Ebrill y flwyddyn nesaf.
"Rydyn ni'n gobeithio, hefyd y bydd y ffilm yn cael ei dangos mewn nifer o lefydd drwy'r byd yn 2004."
Pan yn Toronto bu iddo ddod i gytundeb â chynhyrchydd o Ganada ar gyfer Caitlin fydd yn cael ei ffilmio yng Nghymru, Canada ac Efrog Newydd y flwyddyn nesaf.
Yn ôl Geoff Harding, is-lywydd MasnachCymru yn Efrog Newydd, mae Cymru'n derbyn llawer o'i gysylltiadau diwylliannol â'r ddinas.
"Mi rydyn ni'n gobeithio o allu dangos un o'r ffilmiau mwyaf nodedig ddaeth o ddiwydiant ffilm Cymru y bydd yn cadarnhau ein henw da fel lle sydd â diwylliant o safon," meddai.