Bethan Gwanas enillodd wobr ffuglen gorau'r flwyddyn
|
Cyhoeddwyd enwau enillwyr gwobrau Tir na n-Og 2003.
Mewn rhaglen arbennig gafodd ei darlledu ar S4C cyhoeddwyd enwau'r tair cyfrol fuddugol.
Enillydd Ffuglen Orau'r Flwyddyn ydi nofel Sgôr (Y Lolfa) gan Bethan Gwanas.
Dyma nofel ddifyr, ddarllenadwy iawn, yn llawn hiwmor ar gyfer yr arddegau am fachgen yn symud i fyw o'r gogledd i'r de.
Derbyniodd Bethan gymorth disgyblion ysgol i lunio'r nofel.
Enillwyr y wobr am Lyfr Gorau'r Flwyddyn ac eithrio Ffuglen ydi Rhiannon Ifans a Margaret Jones am y gyfrol Dewi Sant (Y Lolfa).
Llun a stori
Dyma gyfrol arbennig o safonol sy'n gyfuniad o storïau am fywyd Dewi Sant gyda darluniau a diwyg sy'n gweddu i'r cyfnod.
Dyma'r ail dro i Bethan Gwanas ennill gwobr Tir na n-Og.
Yn 2001 enillodd y wobr am ei nofel Llinyn Trôns.
Enillodd Dewi Sant y wobr am lyfr gorau'r flwyddyn ac eithrio ffuglen
|
Mae Rhiannon Ifans wedi ennill gwobr Tir na n-Og o'r blaen.
Yn 2000 enillodd hi a Margaret Jones gyda'r gyfrol Chwedlau o'r Gwledydd Celtaidd.
Margaret Jones ydi arlunydd Dewi Sant, a dyma'r pedwerydd tro iddi hi ennill gwobr Tir na n-Og.
Dyfarnwyd y wobr am y llyfr Saesneg gorau i Rob Lewis am y llyfr stori-a-llun, Cold Jac (Pont/ Gomer).
Dyma nofel sydd wedi cael ei lleoli ar fferm yng Nghymru.
Er bod Mr Lewis wedi cael ei eni yn Llundain ac astudio Dylunio Graffig yng Ngholeg Politechnig Bryste, mae'n byw bellach ar fferm ger Llandrindod.
Yn ôl Menna Lloyd Williams, Pennaeth Adran Llyfrau Plant Cyngor Llyfrau Cymru Roedd tasg anodd iawn yn wynebu'r beirniad.
"Y mae'r llyfrau sydd wedi cyrraedd y brig yn arwydd o safon arbennig llyfrau plant yng Nghymru y dyddiau hyn a hefyd o'r ystod eang o lyfrau sydd ar gael.
"Rydym yn hynod falch o gael llongyfarch yr enillwyr yn wresog ar eu camp."
Mae'r gwobrau yn cael eu cyflwyno yn flynyddol gan y Cyngor Llyfrau i anrhydeddu gwaith awduron ac arlunwyr llyfrau plant.
Y penwythnos nesaf fe fydd yr enillwyr yn cael eu hanrhydeddu yn ystod Cynhadledd Llyfrau Plant y Cyngor Llyfrau 7 - 9 Tachwedd 2003 yng ngwesty'r Metropole, Llandrindod.