Mae angen £40,000 ar gyfer cofeb Dic Evans
|
Llwyddodd arwerthiant gelf i godi swm sylweddol o arian at gronfa apêl i goffau un o arwyr morwrol pwysicaf Ynys Môn.
Mae ymgyrch ar droed i godi £40,000 i greu cofeb i'r diweddar Dic Evans, dyn a enillodd Fedal Aur Sefydliad y Badau Achub ddwywaith am ei ddewrder.
Roedd Syr Kyffin Williams, William Selwyn, Stephen Jones, Wilf Roberts a Keith Andrew ymhlith yr oddeutu 30 o artistiaid Cymreig a gyfrannodd luniau gwreiddiol ar gyfer yr achlysur yn Oriel Môn, Llangefni, nos Iau.
O ganlyniad, codwyd bron i hanner y targed ariannol.
"Derbyniwyd dros £26,000 gyda tua £18,000 o'r swm yma'n cael ei neilltuo i'r Apêl," meddai'r Prif Swyddog Amgueddfeydd a Diwylliant Alun Gruffydd.
Derbyniodd Dic Evans Fedal Aur am achub criw yr Hindlea
|
"Bydd gweddill yr arian yn gomisiwn i'r artistiaid.
Mae'r cerflunydd Sam Holland wedi cael ei chomisiynu i gwblhau'r gofeb, fydd hefyd yn dathlu dewrder ac ymroddiad yr holl griwiau sy'n gwasanaethu ar fadau achub.
Bwriedir gosod y cerflun y tu allan i Wylfan Moelfre a'i ddadorchuddio yn ystod Haf 2004.
"Rydyn ni eisoes wedi derbyn nifer o gyfraniadau gan nifer o unigolion o'r ynys," meddai'r Arglwydd Stanley, cadeirydd Pwyllgor Apêl Cerflun Cofeb Dic Evans.
"Oherwydd y gefnogaeth, y cymorth a'r haelioni a ddaeth i'r amlwg yn yr arwerthiant, rydyn ni'n siwr y byddwn ni'n cyrraedd ein targed erbyn yr haf nesaf."
Roedd hi'n noson i'w chofio i David Evans, mab y diweddar Dic Evans, a ddilynodd ôl troed ei dad trwy ymuno â'r gwasanaeth bad achub.
Mi fydd y gofeb yn dathlu dewrder ac ymroddiad yr holl griwiau sy'n gwasanaethu ar fadau achub
|
"Rwy'n hynod falch fod cymaint o bobol wedi dod yma heno i gyfrannu at yr achos ac mae hynny yn dangos y parch mawr at fy nhad," meddai.
"Dyma'r achlysur cyntaf i godi arian dros yr apêl ac mae popeth wedi mynd yn arbennig o dda. Hoffwn ddiolch i bawb a oedd ynghlwm â'r trefniadau."
Ychwanegodd cynghorydd ward Moelfre ar y cyngor sir, y Cynghorydd Derlwyn Hughes, fod "Dic Evans yn ffigwr o bwys cenedlaethol, er mai dyn ei filltir sgwâr oedd o.
"Roedd yn braf gweld cefnogaeth frwd pobol yr ynys i'r fenter hon yn yr arwerthiant yn Oriel Môn a bydd yn deimlad brafiach fyth pan welwn y gofeb yn ei lle ym Moelfre y flwyddyn nesaf."