Mae'n bosib y bydd yna dâl am y gwasanaeth ym Meifiod eleni
|
Mewn cyfnod sy'n anodd yn ariannol i'r Eisteddfod Genedlaethol, roedd yna ergyd arall iddi ddydd Mercher.
Mae Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys wedi penderfynu fod yn rhaid i'r Eisteddfod dalu am blismona'r brifwyl yn Nhyddewi y llynedd.
Fe fydd y gost yn £10,000, ac mae'n bosib y bydd bil tebyg ar y ffordd wedi'r ymweliad â Meifod eleni.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn honni bod yr Eisteddfod yn gwrthod talu bil o £10,000 gafodd ei gyflwyno am eu gwasanaeth yn ystod yr wyl y llynedd.
Ond dywed Cyfarwyddwr yr Eisteddfod na wnaethon nhw erioed gytuno i dalu i'r heddlu.
Ar hyn o bryd mae unrhyw benderfyniad i godi tâl am ddigwyddiadau cyhoeddus yn cael ei wneud gan bennaeth rhanbarthol pob llu ar gyfer Powys, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro,
Yn ôl y Prif Uwch-arolygydd Paul Amphlett, pennaeth rhanbarthol Sir Benfro, fe wnaeth gwyl Tyddewi gostio £30,000 i'r heddlu.
"Fe wnaethon ni benderfynu codi tâl o £10,000 i'r Eisteddfod oherwydd problemau gweinyddol, ond wnaethon ni ddim gyrru'r bil yn syth" meddai
Masnachol
Cafodd y bil am wyl 2002 ei yrru ddechrau mis Awst 2003.
"Mae'n anodd gwybod be i'w wneud efo'r Eisteddfod gan ei fod yn ddigwyddiad masnachol mae'n dibynnu'n helaeth ar gefnogaeth y gymuned leol.
"Dydy'r heddlu ddim mor fasnachol â rhai cyrff ond rydan ni'n cynnig gwasanaeth cyhoeddus.
"Rydan ni'n codi tâl ar ddigwyddiadau fel Gwyl Jazz Aberhonddu a Sioe Frenhinol Cymru.
"Rwan alla i ddim gweld y byddwn ni'n pwyso am yr arian gan yr Eisteddfod."
Dywedodd Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, na wnaeth y mudiad gytuno i dalu am y gwasanaeth.
"Mae 'na gamddealltwriaeth wedi bod," meddai.
"Y wybodaeth oedd ganddon ni oedd na wnaethon ni gytuno i dalu am wasanaeth yr heddlu yn Eisteddfod Tyddewi.
"Dydan ni ddim wedi talu gan nad oedden ni'n gwybod bod yn rhaid i ni wneud hynny.
"Rydw i wedi cysylltu gyda'r heddlu a gofyn iddyn nhw ddod yn ôl ata i."
Fe wnaeth yr heddlu godi tâl o £15,000 ar gyfer y gwasanaeth yn Eisteddfod Llanelli dair blynedd yn ôl.
Cafodd hwnnw ei dalu yn llawn.
Bydd adran gyllid a phwyllgor awdurdod Heddlu Dyfed Powys yn trafod a gwneud penderfyniad ar eu polisi ar gyfer y dyfodol.