Mae 'na rai golygfeydd arbennig ar yr arfodir
|
Mae'n 118 o filltiroedd o hyd ac mae'n 50 oed.
At beth yr ydyn ni'n cyfeirio?
Wel, llwybr Arfordirol Parc Cenedlaethol Sir Benfro, wrth gwrs.
Fe'i sefydlwyd yn 1953 ac mae bellach yn ymestyn o Poppit ger Aberteifi i Amroth y tu hwnt i Ddinbych-y-Pysgod.
Mae miloedd o bobol yn cerdded y llwybr bob blwyddyn ac mae'n atyniad nad yw'n debyg o golli ei apêl am o leiaf hanner can mlynedd arall.
Mae Roy Lewis yn ddigon hen i gofio'r cyfnod pan nad oedd 'na lwybr yr arfodir yn Sir Benfro.
Ond er ers sefydlu'r llwybr mae'r hanesydd o Drefin, wedi treulio oriau yn cerdded y llwybr ac yn tywys ymwelwyr i werthfawrogi ei gogoniant.
"Yr olygfa ydy'r prif beth ddweden ni," meddai Mr Lewis.
"Mae popeth mor glir lawr yma, y daith yn weddol anodd mewn rhai mannau ond mae 'na dipyn o bopeth i bawb ar y llwybr.
"Mae 'na wahaniaeth rhwng gwaelod y sir a gogledd y sir."
Mae'r parc yn gyfrifol am arfodrir Sir Benfro
|
Tasg Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r llwybr.
"Yn ystod yr haf mae 'na gymaint o dyfiant ar y llwybr ac am chwe mis bob blwyddyn dyna fyddwn ni'n ei wneud ydy i wneud y llwybr yn addas i'r cerddwyr," meddai Geraint Harris, un o wardeniaid y parc.
"Yna fyddwn ni'n cynnal a chadw pethau fel y camfeydd, y giatiau ag atgyweirio'r llwybr."
Mae nifer o fusnesau yn elwa o'r myrdd teithwyr sy'n ymweld â'r ardal yn flynyddol.
Prin bod 'na olygfa debyg i'r haul ym machlud dros Bwll Deri ar noson o haf gyda'r teithiwr blinedig yn edrych i lawr i'r môr islaw.