BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 22 Awst, 2003, 10:51 GMT 11:51 UK
Iaith: Cymdeithas yn dal i deithio
Aelodau'r Gymdeithas yn casglu enwau yn Llangefni
Mae'r Gymdeithas yn casglu enwau'r cyhoedd a mudiadau ar eu datganaid
mae taith gerdded gan aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg o Ogledd Cymru i'r De yn parhau.

Bwriad y daith a gychwynnodd ddydd Sadwrn yn Llangefni ydy tynnu sylw at ddyfodol cymunedau Cymru.

Ddydd Gwener mae'r aelodau yn cerdded o Fachynlleth i Aberystwyth.

Yn Aberystwyth mae disgwyl i'r aelodau gynnal cyfarfod cyhoeddus, fel sydd wedi digwydd mewn nifer o drefi eraill ar hyd y daith.

Yno i'w hannerch y bydd Dr Meredydd Evans ac Arwel Rocet Jones.

Yna mae disgwyl i'r Gymdeithas gynnal gig yn Nhafarn y Cwps gyda Bob Delyn a'r Ebillion a Gilespi.

Ddydd Sadwrn fe fydd y teithwyr yn parhau ar y daith ac yn cerdded drwy Lannon i Aberaeron.

Yno i'w hannerch y bydd Emyr Llewelyn.

Mae disgwyl i'r Gymdeithas gyrraedd Caerdydd ar 30 Awst.

Ddydd Mawrth roedd nifer o Gynghorwyr Sir Gwynedd yn y cyfarfod yn ogystal â'r AS lleol, Hywel Williams.

Yn sgil hyn bwriad y Gymdeithas ydy trefnu cyfarfod pellach rhwng swyddogion y Gymdeithas ac arweinwyr y Cyngor i drafod materion a gododd yn y cyfarfod.

Huw Lewis, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Huw Lewis: Angen tynnu sylw at argyfwng tai Cymru
Mae'r Gymdeithas yn gofyn i'r cyhoedd i arwyddo datganiad dros ddyfodol cymunedau Cymru.

Yn y datganiad mae'r Gymdeithas yn nodi egwyddorion y maen nhw'n credu y dylid fod yn sail i bolisïau tai a chynllunio'r dyfodol.

"Mae'r datganiad yma wedi cael ei ddosbarthu'n eang yn barod a'n bwriad ydy i gael mwy o bobol i'w arwyddo, a mudiadau fel cynghorau, yn ystod y daith," meddai Huw Lewis, Cadeirydd y Gymdeithas.

"Rydym wedi cael cefnogaeth gref gan bobol leol ac roedd 'na dyrfa dda ar y diwrnod cyntaf.

"Fe wnaeth streicwyr Friction Dynamics arwyddo'r datganiad a chawsom ginio gan Hywel Williams, AS Caernarfon ddydd Sul.

"Bu Dafydd Iwan hefyd yn annerch yn y gwasanaeth gafodd ei gynnal ar y Maes yn y dref.

"Ym Mhenygroes cafodd y datganiad ei arwyddo gan Alun Ffred Jones, AC a Walis George, Prif Weithredwr Tai Eryri."

Datganiad Cymdeithas yr Iaith
Mae'r datganiad yn galw am sicrhau dyfodol gymunedau Cymraeg
Pan wnaeth yr aelodau gyrraedd Llanaelhaearn fe wnaeth Geraint Jones arwyddo'r datganiad.

Mr Jones oedd y person cyntaf i gael ei garcharu dros yr iaith.

"Bwriad y daith ydy tynnu sylw at yr argyfwng tai sydd yn wynebu cymunedau ar draws Cymru ac i bwysleisio'r camau hynny y dylai Llywodraeth Cymru eu cymryd er mwyn lleddfu'r sefyllfa," ychwanegodd Mr Lewis.

Mae'r aelodau yn cario blwch coch gyda nhw sy'n cynnwys anfonebau gan gynghorwyr sir ar hyd y daith sy'n nodi faint o gyllid sydd ei angen mewn gwahanol siroedd i sicrhau bod modd i bobol allu aros yn eu cymunedau a phrynu neu rent eiddo o dan y Cynllun Cymorth Prynu'r Llywodraeth.

Bwriad y Gymdeithas ydy cyflwyno'r datganiad i Lywodraeth y Cynulliad ym mis Tachwedd pan fydd y Gymdeithas yn cynnal Rali yng Nghaerdydd.

Mae disgwyl i Mr Jones, Leanne Wood AC a'r Athro Hywel Teifi Edwards annerch y rali ar 15 Tachwedd.




HEFYD:
Cerdded o blaid cymunedau
16 Awst 03  |  Newyddion
Iaith: Cymdeithas yn dal i deithio
19 Awst 03  |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^