BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 1 Hydref, 2003, 18:16 GMT 19:16 UK
Lynette: Mechn´aeth i bedwar
Lynette White:
Lynette White: Cafodd ei thrywanu fwy na 50 o weithiau

Dywed Heddlu'r De fod y pedwar gafodd eu harestio mewn cysylltiad Ô'r achos gwreiddiol i lofruddiaeth merch yng Nghaerdydd 15 mlynedd yn ˘l wedi'u rhyddhau ar fechn´aeth.

Cafodd tri dyn eu carcharu ar gam yn yr achos gwreiddiol.

Cafodd pedwar tyst yn yr achos hwnnw - Mark Grommek, Angela Psaila, Leanne Vilday a Paul Atkins - eu holi ar amheuaeth o ddweud celwydd ar lw ac o geisio newid cwrs cyfiawnder.

Cafwyd hyd i gorff Lynette White ar Ddydd San Ffolant 1988 uwchben siop fetio yn Nhrebiwt, Caerdydd.

Roedd hi wedi ei thrywanu fwy na 50 o weithiau.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, cafodd tri dyn, Tri Caerdydd, eu carcharu ar gam.

Cawson nhw eu rhyddhau ar apŕl ddwy flynedd wedyn.

Yng Ngorffennaf eleni cafodd Jeffrey Gafoor o Lanharan ger Penybont ar Ogwr ei ddedfrydu i garchar am oes am lofruddio Miss White, 20, bymtheg mlynedd yn ˘l.

Canmolodd y barnwr yr ymchwiliad newydd, yn enwedig gwaith swyddogion fforensig a gwaith y Ditectif Gwnstabl Paul Williams o Heddlu De Cymru.




GWYLIWCH A GWRANDEWCH
Dewi Llwyd a Craig Duggan BBC Cymru
"Mae yna bryder mawr ynglřn Ô'r ymchwiliad gwreiddiol..."



HEFYD:
Dal llofrudd Lynette White
04 Gorff 03  |  Newyddion
'Bywyd tawel' llofrudd Lynette
04 Gorff 03  |  Newyddion
Lladd yn arwain at gamwedd
04 Gorff 03  |  Newyddion



Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^