Mae'r Eisteddfod eleni wedi bod yn un 'lwyddiannus'
|
Gyda Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau ym Meifod bellach ar ben mae'r trefnwyr wedi dweud ei bod wedi bod yn wythnos hynod o lwyddiannus.
Fe ddaeth degau o filoedd o bobol i ymweld â'r Maes yn ddyddiol.
Ddydd Gwener fe ddaeth bron i 24,000 o bobol i'r Maes, 7,500 yn fwy na'r llynedd.
Ac unwaith eto roedd miloedd wedi heidio i Feifod ar gyfer diwrnod olaf y cystadlu ddydd Sadwrn.
Ddechrau'r wythnos roedd yna obeithion mawr am wythnos lwyddiannus yn dilyn tywydd gwael Tyddewi a thrafferthion ariannol yr Eisteddfod.
Ar ddechrau'r wythnos dywedodd Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, mai dyma "un o safleoedd gorau'r Eisteddfod erioed".
Roedd y trefnwyr yn obeithiol y byddai'r tyrfaoedd yn heidio i Feifod.
Tywydd
"Mae'r rhagolygon yn dda iawn o ran y tywydd ac mae'r traffig yn dod yn ddi-broblem," meddai Hywel Wyn Edwards, Trefnydd y Gogledd.
A dydd Sadwrn roedd Mr Roberts yn dweud ei bod hi "wedi bod yn wythnos arbennig".
"Mae'r wythnos yma wedi rhoi hyder i ni yn sicr," meddai.
"Mae'n amlwg bod yna gefnogaeth i'r Eisteddfod Genedlaethol.
"Roedd ganddon ni ychydig bach o ofnau yn mynd i mewn i'r Steddfod yma yn enwedig ar ôl gweld tywydd gwael gawson i ddydd Mawrth a dydd Mercher wythnos dwytha.
"Ond diolch i'r nef bod bob dim wedi troi allan yn iawn.
"Ychydig iawn o broblemau yr ydan ni wedi eu cael.
"Mae'r rhan fwyaf o Eisteddfodwyr - yn gystadleuwyr a stondinwyr - yn ogystal â fi, wedi bod yn fodlon iawn, iawn."
Ond er y tywydd braf a'r miloedd sydd wedi heidio i brofi mwynder Maldwyn, mae trefnwyr y Brifwyl er hynny yn rhybuddio bod sefyllfa ariannol yr Eisteddfod yn dal yn fregus.
Ond mae'r trefnwyr yn ffyddiog erbyn hyn y bydd yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ariannol - a hynny am y tro cyntaf ers Steddfod y Mileniwm yn Llanelli.
Er y niferoedd fydd yna ddim elw gan fod y nawdd a dderbyniodd yr Eisteddfod £100,000 yn brin o'r nod.
Ond un peth sydd wedi cynyddu yw'r cyfanswm o ddwr sydd wedi ei yfed dros yr wythnos ddiwethaf.
Mae yna 60,000 litr o ddwr wedi cael ei yfed yng nghefn y pafiliwn yn unig dros yr wythnos o'i gymharu â 60 o gasgeni y llynedd.
Fe ddaeth y cystadlu i ben nos Sadwrn gydag uchafbwyntiau fel y Rhuban Glas (Gwobr Goffa David Ellis) a Gwobr Goffa Llwyd o'r Bryn i lefarwyr a'r Corau Meibion.
Yna fe ddaaeth Eisteddfod Maldwyn a'r Gororau i ben gyda chymanfa ganu yn y Pafiliwn nos Sul.