BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 8 Awst, 2003, 19:28 GMT 20:28 UK
Dim Pabell y Cymdeithasau?
Maes yr Eisteddfod
Holwyd dros 500 o bobol ar Y Maes

Er i Eisteddfod eleni fod yn llwyddiant, a hynny'n bennaf oherwydd y tywydd braf, dydy sefyllfa ariannol tymor hir y Brifwyl ddim mor iach.

Bu i argyfwng y clwy traed a genau gael effaith andwyol ar yr Eisteddfod rai blynyddoedd yn ôl a chafwyd tywydd gwlyb yn Nhyddewi a gadwodd y torfeydd draw ac a arweiniodd at gostau uwch.

Mi fydd rhaid unai gael arian ychwanegol o rywle neu wneud arbedion.

Soniwyd am nifer o ddewisiadau - o gael gwared â'r Feithrinfa i roi stop ar Faes B.

Ond be fuaai orau gan yr Eisteddfodwyr?

Bu rhaglen Newyddion BBC Cymru yn holi barn dros 500 o bobol ar Y Maes.

Dyma oedd barn y bobol:

  • Mae 44% o'r rhai a holwyd am gael gwared â Phabell y Cymdeithasau.

  • Yn ail, oedd Y Ddrama Gomisiwn gyda 25% o'r bleidlais am gael gwared â hi, ond roedd 22% am beidio cael gwared ag unrhyw beth oddi ar y Maes gan ddadlau y dylai'r arbedion ariannol ddod o rywle arall.

  • Prin iawn oedd y nifer oedd am weld diflaniad Maes B na'r Feithrinfa. Roedd y rhain yn fuddsoddiad i ddyfodol yr Eisteddfod, medden nhw.

  • Dim ond 5% oedd o blaid cael gwared â Maes B a 3% am weld cefn y Feithrinfa.

    Ydych chi'n cytuno?

    Gyrrwch air i BBC Cymru'r Byd drwy glicio yma.




  • HEFYD:
    Dadl rheol dim alcohol yn parhau
    29 Gorff 03  |  Newyddion
    Eisteddfod mewn twll ariannol?
    01 Gorff 03  |  Newyddion
    Eisteddfod yn gwneud colledion
    11 Meh 03  |  Newyddion


    CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
    Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


    Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


    Yn ôl i'r brig ^^