BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 8 Awst, 2003, 17:58 GMT 18:58 UK
Galw am goleg ffederal
Cyfarfod undebau cenedlaethol myfyrwyr Cymraeb Aberystwyth a Bangor
Cafodd y cyfarfod ei gynnal ar y Maes ddydd Gwener

Mae undebau cenedlaethol myfyrwyr Cymraeg Aber a Bangor wedi cynnal cyfarfod cyhoeddus i drafod dyfodol addysg Gymraeg yn y sector addysg uwch ar y Maes ddydd Gwener.

Yn y cyfarfod galwodd yr undebau am sefydlu coleg ffederal Cymraeg.

Y siaradwyr oedd Cynog Dafis, cyn-Gadeirydd Pwyllgor Addysg y Cynulliad, Dr Dafydd Glyn Jones, a Gruff Huws, UCAC.

Mae UCMC yn dadlau fod darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn y sector yn annigonol ac yn dal i grebachu.

Fe ddywedon nhw fod penderfyniad Jane Davidson, Gweinidog Addysg y Cynulliad, i wrthod trosglwyddo mwy o arian i ddatblygu addysg Gymraeg yn siom.

"Mae'n amlwg nad yw'r Gymraeg yn ystyriaeth wirioneddol i'n sefydliadau addysg uwch nac ychwaith i Jane Davidson a'r Weinyddiaeth yn y Cynulliad," meddai Gwion Evans, Swyddog Iaith Gymraeg UCMC.

Dywedodd fod hwn yn gyfnod allweddol i addysg cyfrwng Cymraeg yn y sector uwch.

Dr Dafydd Glyn Jones
Dr Dafydd Glyn Jones: 'Mwy o ddarpariaeth gan goleg ffederal
"Er mwyn sicrhau dyfodol darpriaeth Gymraeg, rhaid newid y sefyllfa lle mae'r Gymraeg yn gonsyrn ymylol yn ein sefydliadau addysg uwch.

"Rhaid wynebu'r gwir mai problem strwythurol sy'n gyfrifol am gyflwr enbyd y Gymraeg.

"Felly ateb strwythurol yn unig all ddiwygio'r sefyllfa" meddai.

Dywedodd mai sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg yw'r unig ateb.

Mae Dr Dafydd Glyn Jones yn feirniadol o'r cynllun a gafodd ei gynnig i'r Cynulliad gan y Bwrdd Dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg y Brifysgol.

"Mae cynllun y Bwrdd Dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg y Brifysgol wedi ei wrthod gan Lywodraeth y Cynulliad.

"Mae'r Bwrdd yn galw am arian i dalu am ganolfan i gefnogi addysg Gymraeg.

Mae'r ffaith fod Jane Davidson wedi gwrthod y syniad wedi ei daro yn ôl i'r man cychwyn ac rydym ni'n galw am rywbeth mwy uchelgeisiol Coleg Ffedereal.

Mae Dafydd Glyn Jones yn galw am goleg ffederal gyda changhennau drwy Gymru a fyddai'n cyfateb i'r colegau sy'n bodoli'n barod.

"Byddai coleg ffederal yn cynnig llawer mwy o ddarpariaeth drwy'r Gymraeg na sydd ar gael ar hyn o bryd,

"Mae angen staff o bron i 200 o'r cychwyn i'w wneud yn llwyddiant" meddai.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^