Bu Cymdeithas yr Iaith a Cymuned yn gorymdeithio ar y Maes
|
Am y tro cyntaf mae Cymuned a Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cynnal protest ar y cyd a hynny ar Faes Eisteddfod Maldwyn a'r Gororau ym Meifod brynhawn dydd Gwener.
Bwriad y brotest oedd tynnu sylw at yr argyfwng tai sy'n tanseilio cymunedau ar draws Cymru a phwysleisio rhai camau y gall Llywodraeth y Cynulliad eu cymryd er mwyn ymdrin â'r broblem.
Fe orymdeithodd y ddau fudiad o babell Y Lolfa i babell Llywodraeth y Cynulliad.
Yno fe fu Simon Thomas, AS Ceredigion, Simon Brooks o Cymuned, Huw Lewis, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith ac Aled Davies, Swyddog Ymgyrch Deddf Eiddo Cymdeithas yr Iaith, yn annerch y dyrfa.
Cafodd y brotest ei chynnal er mwyn tynnu sylw at y broblem na all pobol ifanc lleol fforddio prynu tai yn eu cymunedau ac o ganlyniad maen nhw'n gorfod gadael eu bröydd.
Penderfynodd y ddau fudiad gynnal protest ar y cyd wedi cyhoeddiad gan Edwina Hart, Gweinidog Tai y Cynulliad, ddechrau mis Gorffennaf.
Arian
Dywedodd Ms Hart na fyddai unrhyw arian ychwanegol ar gael ar gyfer y Cynllun Cymorth Prynu.
Cynllun oedd hwn a gafodd ei sefydlu gyda'r bwriad o helpu teuluoedd i brynu tai yn eu cymunedau.
Huw Lewis: 'Y Gymdeithas yn parhau i ymgyrchu ar ôl y 'Steddfod'
|
Fe gododd un o aelodau Cymdeithas yr Iaith y syniad o gynnal protest ar y cyd ac wedyn aeth y cynnig gerbron pwyllgor gwaith Cymuned a Senedd Cymdeithas yr Iaith.
Mae'r ddau fudiad yn dadlau fod y Llywodraeth wedi gwrthod cymryd un o'r camau symlaf posib tuag at leddfu'r argyfwng tai yng Nghymru wrth fethu â darparu mwy o gyllid ar gyfer y cynllun.
Maen nhw hefyd yn galw am gynnydd sylweddol yn y gyllideb bresennol sy'n cael ei ddarparu ar gyfer y cynllun.
Meddai Huw Lewis, Cadeirydd yr Iaith: "Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi gwrthod un o'r camau rhwyddaf y gall y Cynulliad ei wneud o fewn ei bwerau ac mae'n dangos diffyg ewyllys ar eu rhan.
Cyd weithio
"Mae Cymdeithas yr Iaith yn ymgyrchu ar nifer o faterion ac mae'r ymgyrch tai yn un ohonyn nhw ac fe fydden ni'n barod i gydweithio ag unrhyw fudiad neu blaid arall sy'n cytuno â ni.
Gwilym ab Ioan: 'Mae'n gwneud synnwyr i gyd-weithredu
|
"Hon yw protest yr wythnos ac am yr wythnos i ddilyn fe fydd yna gyfres o gyfarfodydd ac fe fyddwn ni'n parhau i ymgyrchu ar ôl y Steddfod gan fynd o amgylch Cymru yn tynnu sylw ar y broblem tai."
Wrth egluro pam y penderfynodd Cymuned gydweithredu â Chymdeithas yr Iaith, meddai Gwilym ab Ioan o Cymuned: "Mae'n gwneud synnwyr i gydweithredu gan ein bod ni'n ddau fudiad gyda'r un nod ac mae'n dyheadau ni yr un fath ar y pwnc hwn.
"Does yna ddim gelyniaeth rhyngddon ni ac rydyn ni'n ymgyrchu mewn gwahanol feysydd a phan mae'r meysydd hynny'n cyffwrdd â'i gilydd rydyn ni'n fwy na pharod i gydweithredu er budd y genedl.
Nid yw Gwilym ab Ioan yn credu fod angen uno'r ddau fudiad.
"Mae'r ffurfafen yn rhy eang ac mae'n anodd i un mudiad flaenoriaethu a chanolbwyntio ar amryw o bynciau unigol," meddai.
Wedi'r Eisteddfod fe fydd Cymuned yn cynnal cylchdaith, Anterliwt yr Ynys Las, a fydd y denu pobol i neuaddau cymunedol i ddeall fod pobol yn cydymdeimlo â'u sefyllfa.