BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 8 Awst, 2003, 16:36 GMT 17:36 UK
Twm Morys yn ennill y Gadair
Twm Morus
Mae Twm Morus yn aelod brwd o Cymuned
Twm Morys sydd wedi ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau.

Drysau oedd testun yr awdl eleni ac fe ymgeisiodd naw yn y gystadleuaeth.

Mae'r Gadair yn rhodd gan Gangen Sir Maldwyn o Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac wedi ei chreu gan Robert Morgan o Lanbrynmair.

Yn ogystal â derbyn y Gadair mae Mr Morys yn derbyn gwobr ariannol o £750.

Beirniaid y gystadleuaeth eleni oedd Myrddin ap Dafydd, Donald Evans a Ieuan Wyn.

Roedd y tri yn gytûn bod awdl Twm Morys yn dod i'r brig am ei bod yn awdl ag iddi ddyfnder a gweledigaeth yn ogystal ag angerdd cyson.

Fe ddaw Twm Morys o Lanystumdwy ger Cricieth.

Cafodd ei eni ym 1961 ar aelwyd 'Eingl-Gymreig'.

Roedd un taid iddo yn fecanig yn Sir Fynwy a'r llall yn blanwr te yn Ceylon.

Cafodd Mr Morys ei eni yn Rhydychen gan fod ei dad yn ysgrifennu llyfr am y lle ar y pryd.

Ond pan oedd yn ddwy flwydd oed symudodd y teulu i Lanystumdwy a chychwynnodd ei addysg yn ysgol y Llan.

Ysgol breswyl

Ond pan oedd yn saith oed cafodd ei anfon i ysgol breswyl ac yna i Ysgol Fonedd Amwythig.

Gwnaeth ei arholiad Lefel A yn Ysgol Gyfun Aberhonddu, yr unig ddisgybl yn y dosbarth Cymraeg.

Aeth i Goleg Aberystwyth i wneud Astudiaethau Celtaidd gan ennill Cadair yr Eisteddfod Ryng-Golegol.

Ar ôl graddio aeth yn ymchwilydd gyda Radio Cymru am dair blynedd ac yna ennill ei damaid fel Clerwr am ryw wyth mlynedd cyn mynd i Lydaw am ddegawd ac wedyn dychwelyd i Lanystumdwy.

Mae ganddo ddau o blant sef Angharad a Gwion ac mae'n briod â Sioned Wyn.

Mae'n aelod brwd o Cymuned ac yn canu efo band Bob Delyn a'r Ebillion.




GWYLIWCH A GWRANDEWCH
Adroddiad John Meredith BBC Cymru
"Cafodd ganmoliaeth uchel..."



HEFYD:
Mererid yn cipio'r Goron
04 Awst 03  |  Newyddion
Medal i Cefin Roberts
06 Awst 03  |  Newyddion
Medal Daniel i Elfyn Pritchard
05 Awst 03  |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^