Mae Karl Davies a Dafydd Morgan Lewis yn derbyn y wisg wen
|
Mae nifer o Gymry amlwg yn cael eu hurddo i'r Orsedd ddydd Gwener mewn seremoni yng Nghylch yr Orsedd yn Y Trallwng.
Mae'r aelodau newydd yn cael eu hurddo er anrhydedd am eu cyfraniad i fywyd a diwylliant Cymru a'r iaith Gymraeg.
Yn eu plith mae Karl Davies o Gaerdydd, gwr a fu'n weithgar yn y mudiad iaith a'r mudiad cenedlaethol ers blynyddoedd.
Bu'n Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn gweithio fel Prif Ymchwilydd Seneddol Plaid Cymru yn San Steffan ac yn Olygydd Seneddol BBC Cymru.
Wedi hynny cafodd ei benodi yn Brif Weithredwr Plaid Cymru a bu'n allweddol yn y broses o foderneiddio'r blaid.
Fe fu Karl Davies yn Brif Weithredwr Plaid Cymru
|
Hefyd yn cael ei urddo mae Heini Gruffudd o Abertawe, sydd wedi rhoi ei oes i weithio dros yr iaith yn genedlaethol ac yn lleol, fel athro, ymgyrchwr, llenor ac academydd.
Ef yw Cadeirydd Rhieni dros Addysg Gymraeg ac mae wedi bod yn dysgu Cymraeg i oedolion yn wirfoddol ers blynyddoedd.
Mae'n gweithio yn Adran Efrydiau Allanol Prifysgol Cymru, Abertawe.
Un peth arbennig am y seremoni eleni yw fod gwr a gwraig yn cael eu hurddo i'r wisg wen gyda'i gilydd a hynny am eu gwasanaeth enfawr i Gymru.
Mae cyfraniadau Edward a Gwyneth Morus Jones o Landegfan Ynys Môn yn cyd redeg i'r fath raddau fel nad oedd modd eu gwahanu.
Bu'r ddau yn athrawon ysgol a bu Edward yn brifathro Ysgol Gynradd Llandegfan.
Mae'r ddau wedi chwarae rhan amlwg yn Eisteddfod Llandegfan am chwarter canrif ac maen nhw wedi bod yn amlwg yn ngweithgarwch Eisteddfod Môn a'r Genedlaethol.
Hefyd maen nhw wedi bod yn weithgar gydag Urdd Gobaith Cymru a'r Mudiad Ysgolion Meithrin a bu'r ddau yn eu tro yn Llywyddion UCAC, yr unig wr a gwraig i dderbyn yr anrhydedd honno.
Mae Edward a Gwyneth Morus Jones yn cael eu hurddo gyda'i gilydd
|
Roedd y ddau yn falch eu bod nhw'n cael eu hurddo i'r Orsedd gyda'i gilydd.
Meddai Edward Morus Jones: "Fe gawson ni dipyn o syndod pan glywson ni ein bod wedi derbyn i'r Orsedd gyda'n gilydd ond mae'n braf iawn.
"Mae'r ffaith ein bod yn cael ein hurddo yr un flwyddyn yn gwneud y digwyddiad yn un arbennig iawn."
Mae Mrs a Mrs Morus Jones yn hen gyfeillion â nifer sydd yn yr Orsedd.
Ond meddai Mr Jones: "Mae yna gymaint o bobol yma yr ydym ni yn eu hadnabod ers blynyddoedd ond dydyn ni erioed wedi eu gweld wedi eu gwisgo fel hyn felly mae'n brofiad gwahanol iawn" meddai.
Un arall sy'n cael ei urddo ddydd Gwener yw Dafydd Morgan Lewis sydd yn aelod gweithgar iawn o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Nid yw Dafydd Morgan Lewis yn bwriadu parchuso
|
Mae Mr Lewis yn un o feibion Maldwyn gan ei fod wedi ei eni a'i fagu yn y Foel ond mae bellach yn byw yn Aberystwyth.
Mae wedi bod yn gweithio i nifer o sefydliadau fel yr Academi Gymreig a'r Llyfrgell Genedlaethol.
Ers dros 15 mlynedd mae wedi bod yn gweithio fel un o swyddogion cyflogedig Cymdeithas yr Iaith.
Mae hefyd wedi bod yn aelod gweithredol ac fe dreuliodd gyfnod yn y carchar yn ystod yr ymgyrch dros Gorff Datblygu Addysg Gymraeg.
Ond er ei fod wedi ei dderbyn i'r Orsedd nid yw Dafydd Morgan Lewis yn credu ei fod yn dod yn rhan o'r Sefydliad.
"Rydw i'n ei hystyried yn fraint mod i wedi fy nerbyn ond dydw i ddim bwriadu parchuso, mae'n llawer rhy hwyr i hynny" meddai.
Yn ogystal ddydd Gwener mae'r newyddiadurwr Sulwyn Thomas yn cael ei urddo i'r wisg wen.
Mae'r gwr o Gaerfyrddin yn un o leisiau amlycaf BBC Radio Cymru ers y 1970au.
Fe fu Sulwyn Thomas yn cyflwyno Stondin Sulwyn am dros 25 mlynedd
|
Fe fu'r rhaglen Stondin Sulwyn yn un o raglenni mwyaf poblogaidd yr orsaf am dros 25 mlynedd ac yn gyfle i bobol gael dweud eu dweud ac roedd ffordd arbennig gan Sulwyn Thomas i lywio'r drafodaeth.
Mae hefyd i'w weld ar y teledu gyda rhaglenni fel Y Sioe Fach a Ffermio ac i'w glywed yn cyflwyno'r rhaglen Cymru Heddiw ar BBC Radio Cymru.
Mae Mr Thomas yn ei hystyried yn fraint ei fod wedi ei urddo i'r Orsedd.
Meddai: "Dwi wedi bod yn darlledu am flynyddoedd ac efallai yn credu nad oedd pobol yn gwerthfawrogi ar ôl cyfnod hir ond wedi ymddeol i raddau rydw i yn awr yn teimlo mod i wedi gwneud cyfraniad.
"Yr hyn sy'n braf yw fod yr Orsedd fel pe bai wedi agor ei drysau ac mae pobol a fu'n rebel yn eu dydd bellach yn cael eu derbyn ac mae hynny'n gwneud i mi deimlo'n gartrefol iawn" meddai.
Mae Benito Jones yn byw yn y Gaiman ym Mhatagonia
|
Nid Cymry yn unig sydd wedi bod yn edrych ymlaen at y seremoni.
Mae Benito Jones wedi dod i Feifod yr holl ffordd o'r Gaiman ym Mhatagonia er mwyn cymryd rhan yn yr Orsedd.
Yn ogystal â'r seremoni ddydd Gwener bu'n rhan o'r seremoni ddydd Llun lle y croesawyd cyfeillion o'r gwledydd Celtaidd.
Mae Mr Jones yn aelod o Orsedd Patagonia ac ef eleni sydd yn cynrychioli'r Orsedd honno ym Meifod.
Mae'n siarad Cymraeg yn rhugl gan fod ei rieni a'i nain a'i daid yn siarad Cymraeg.
"Rydw i'n falch iawn o fod yma ac yn mwynhau'r 'Steddfod.
"Mae'n bwysig i ni ym Mhatagonia gadw'r iaith Gymraeg ac os yw'r diwylliant a'r iaith i barhau yno mae'n rhaid gwneud ymdrech" meddai.