BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 7 Awst, 2003, 18:00 GMT 19:00 UK
Cronfa leol: Uwch na'r disgwyl
Glyn Williams, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid
Mae Glyn Williams, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, yn bles iawn â gwaith y pwyllgorau lleol

Fe ddywedodd Glyn Williams, Is-gadeirydd y Pwyllgor Gwaith a Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid, ddydd Iau ei fod yn bles iawn â'r cyfanswm o arian y llwyddodd y gronfa leol ei godi ar gyfer yr Eisteddfod.

Llwyddodd y gronfa leol i godi £241,000 ar gyfer yr Eisteddfod ac roedd hyn yn llawer uwch nac yr oedd y Pwyllgor Gwaith wedi ei ragweld.

"Pan osodwyd targed o £201,000 i'r gronfa leol roeddwn i'n meddwl y byddem ni'n cael trafferth.

"Ond mae haelioni pobol Maldwyn a'r Gororau wedi sicrhau fod y gronfa wedi codi £241,000.

"Dwi'n gobeithio y bydd hyn yn symbyliad i Eisteddfod Casnewydd ac eisteddfodau'r dyfodol.

"Mae'r bobol leol wedi bod yn cyd-weithio'n dda ac roedd yn fraint arwain y tîm.

'Gweithgar'

"Mae pobol wedi bod yn weithgar iawn a chanlyniad hyn yw ein bod ni wedi cyrraedd a phasio'r targed," meddai.

Cafodd 47 o bwyllgorau apêl eu sefydlu gyda nifer ohonyn nhw dros y ffin yn Lloegr mewn ardaloedd fel Croesoswallt, Birmingham, Wolverhamton a Stoke on Trent.

Meddai Mr Williams am y pwyllgorau hynny: "Fe lwyddon nhw i godi swm sylweddol ac mae eu gweithgaredd a'u brwdfrydedd wedi bod yn esiampl i rai ardaloedd yng Nghymru."

Mae trefnwyr yr Wyl yn hapus iawn â'r niferoedd sydd wedi dod i ymweld â'r Brifwyl hyd yn hyn ac maen nhw'n falch fod dros 750 o garafannau bellach wedi cyrraedd y Maes.

Hefyd maen nhw'n bles â'r niferoedd ym Maes B.

Meddai Hywel Wyn Edwards, Trefnydd yr Eisteddfod yn y Gogledd: "Mae Maes B yn llawn ac mae llawer o bebyll wedi cyrraedd.

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd hyd yn oed mwy yn cyrraedd o heno (nos Iau) ymlaen."




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^