BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 7 Awst, 2003, 16:52 GMT 17:52 UK
Archdderwydd yn beirniadu'r Steddfod
Robin Llın
Cael ei alw o flaen y trefnwyr
Yn ystod seremoni anrhydeddu'r prif awdur rhyddiaith brynhawn dydd Mercher fe feirniadodd yr Archdderwydd Robin Llın drefnwyr yr Eisteddfod am fod y seremoni yn hwyr yn dechrau.

Ond mae'n ymddangos fod ei sylwadau wedi cythruddo trefnwyr yr wyl a'u bod nhw wedi galw'r Archdderwydd ac uchel swyddogion eraill yr Orsedd i ymddangos o'u blaen yn union ar ôl i'r seremoni ddod i ben.

Roedd yr Archdderwydd yn flin am fod aelodau'r Orsedd wedi eu cadw yn aros yn y gwres y tu allan i'r Pafiliwn am 40 munud tra roedd gweithgareddau'r llwyfan yn parhau.

Cryno

Wrth siarad wedi i Eurig Wyn draddodi ei feirniadaeth yn Seremoni'r Fedal Ryddiaith ddydd Mercher fe wnaeth sylw wedi i Mr Wyn ddweud y byddai'n gryno yn traddodi ei feirniadaeth.

"Diolch i Eurig am ei feirniadaeth gryno ac am ei sylw yn taro'r post i bob pared o feirniad arall gael clywed.

"Ac fe ategwn i hynny drwy ychwanegu mai anghwrteisi o'r mwyaf yw dechrau seremoni 40 munud yn hwyr oherwydd beirniaid hir ac eraill a chadw'r Orsedd yn chwysu yn yr haul am gyfnod mor faith â hyn.

"Gobeithio mod innau wedi taro'r post ac na ddigwydd hyn ddydd Gwener," meddai.

Cafwyd cymeradwyaeth gan y gynulleidfa wrth iddo ddatgan ei sylwadau.

Galw gerbron trefnwyr

Mae'n ymddangos fod Dr Lewis a rhai o'r uwch swyddogion eraill wedi cael eu galw gerbron trefnwyr yr wyl wedi'r seremoni.

Wrth ymateb i'r digwyddiad ddydd Iau dywedodd Hywel Wyn Edwards, Trefnydd yr Eisteddfod yn y Gogledd, nad oedd yn hapus fod yr Archdderwydd wedi gwneud ei sylwadau o'r llwyfan.

"Fe fyddai'n well gen i pe bai'r Archdderwydd wedi dod atom ni yn hytrach na dweud ei farn o'r llwyfan.

"Wedi'r cyfan un Eisteddfod ydyn ni ac nid Gorsedd a Phwyllgor yr Eisteddfod," meddai.

Mae llawer o ddadlau wedi bod yn ystod y blynyddoedd diwethaf ynglın â newid amser prif seremonïau'r Eisteddfod.

Mae'r Archdderwydd wedi datgan nad yw'n gwrthwynebu'r penderfyniad i symud y seremoni ond ei fod am i'r seremonïau ddechrau ar amser.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^