BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 7 Awst, 2003, 15:43 GMT 16:43 UK
Cymry Tramor: 'Angen denu'r ifanc'
Idris Evans, Arweinydd y Cymry Tramor
Idris Evans o Galiffornia yw Arweinydd y Cymry Tramor eleni

Y sialens o sicrhau fod y genhedlaeth nesaf yn cynnal y cymdeithasau Cymraeg dramor oedd neges araith Idris Evans, Arweinydd y Cymry Tramor, ar lwyfan y Brifwyl eleni.

Cafodd Seremoni Croesawu Cymru a'r Byd ei chynnal yn y Pafiliwn ddydd Iau gyda Mr Evans yn annerch o'r llwyfan.

Cafodd Idris Evans ei eni a'i fagu yng Nglantwymyn ger Machynlleth ond erbyn hyn mae'n byw yn Lafayette ger San Francisco.

Wrth siarad cyn ei araith eglurodd beth fyddai ei neges ar y llwyfan.

"Yr hyn fydda i'n ei ddweud yw fod yna sialens yn ein wynebu ni yn y cymdeithasau Cymraeg dramor i wneud yn siwr fod gan y genhedlaeth nesaf ddiddordeb yn y pethau Cymraeg a'u bod nhw'n cynnal y traddodiad i'r dyfodol.

"Mae'r bobol sydd â chysylltiadau cryf â Chymru yn marw allan a'r broblem fawr yw pwy sy'n mynd i gynnal pethau i'r dyfodol.

"Mae'n fwy anodd bellach cynnal diddordeb gan fod cymaint o bethau eraill y gall y genhedlaeth nesaf ei wneud yn y byd.

Newid

"Mae'n rhaid i ni y genhedlaeth hýn newid ein ffyrdd a chyfathrebu â'r ifanc.

"Does yna ddim ateb pendant i'r broblem ac mae'n debyg fod yr ateb yn amrywio o wlad i wlad ond mae angen meddwl am y peth ac mae'n rhaid i ni newid wrth i'r byd a Chymru newid," meddai.

Mae'r bobol sydd â chysylltiadau cryf â Chymru yn marw allan a'r broblem fawr yw pwy sy'n mynd i gynnal pethau i'r dyfodol.


Idris Evans, Arweinydd y Cymry Tramor eleni
Fe adawodd Mr Evans Lantwymyn i fynd i Brifysgol Birmingham a Choleg Technolegol Manceinion.

Dechreuodd ei yrfa yn Yr Almaen a'r Swistir gyda chwmni cemegol a symudodd i'r Unol Daleithiau ym 1969.

Mae Mr Evans yn ymweld â Chymru yn gyson ac yn rhugl yn y Gymraeg.

Dros y blynyddoedd mae wedi hyrwyddo Cymru yng ngogledd Califfornia, yn enwedig yn San Fransisco ac mae'n Lywydd Cymdeithas Gymreig Gogledd Califfornia.

Gwr arall â chysylltiad â bro'r Eisteddfod oedd yn bresennol yn y seremoni yw Arwyn Gittins o Ganada.

Hel achau

Cafodd Mr Gittins ei fagu yn Sir Gaerfyrddin ond roedd rhai o'i gyndadau'n dod o'r Drenewydd.

Arwyn Gittins o Ganada
Mae Arwyn Gittins wedi byw yng Nghanada ers 1965
Mae wedi byw yng Nghanada ers 1965 ond fe fydd yn cadw cysylltiad â Chymru drwy lythyrau a bydd yn darllen Y Cymro a'r Western Mail yn rheolaidd ar y we ac mae'n siarad Cymraeg yn rhugl.

Yn ddiweddar mae wedi dechrau ymddiddori mewn hel achau a thrwy hynny daeth i wybod mai enw o'r canolbarth yw Gittins.

Fe gafodd dipyn o syndod ddydd Llun pan aeth i Gylch yr Orsedd a darganfod fod yr enw Gittins ar y bws oedd yn cludo'r orsedd.

Ond nid Gittins yw'r unig enw sydd wedi ennyn diddordeb.

Mae'r enw Morgan yn cael ei gysylltu â'r teulu hefyd ac mae Mr Gittins wedi darganfod ei fod yn perthyn o bell i Brif Weinidog y Cynulliad, Rhodri Morgan.

Baner

Er bod Mr Gittins wedi bod yn byw yng Nghanada ers y 1960au mae pobol yn parhau i sylwi ar ei acen Gymreig, meddai.

"A fydda i bob amser yn gosod baner y Ddraig Goch o flaen y tý ar Ddydd Gwyl Dewi bob blwyddyn," meddai.

Nest Pierry o Baris
Mae Nest Pierry yn un o Is-Lywyddion Undeb Cymru a'r Byd
Un sy'n dod i'r Eisteddfod bob blwyddyn yw Nest Pierry o Baris.

Mae Ms Pierry yn un o Is-Lywyddion Undeb Cymru a'r Byd a hi oedd Arweinydd y Cymry Tramor ym 1992.

Cafodd Ms Pierry ei geni ym Mhenmachno a symudodd i Baris yn y 1950au wedi iddi fod yn teithio o amgylch y byd gyda chwmni teithio Thomas Cook.

"Mi fydda i'n mwynhau dod i'r Steddfod ac yn dod yma bob blwyddyn. Dwi wedi cael llety ar gyfer yr Eisteddfod yn Eryri yn barod," meddai.

"Mae yna lawer o bobol yn dod i Baris ac mae'r Steddfod yn gyfle i'w gweld nhw i gyd eto," ychwanegodd.




GWYLIWCH A GWRANDEWCH
Adroddiad Garry Owen BBC Cymru
"Prin oedd y baneri..."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^