BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 7 Awst, 2003, 12:23 GMT 13:23 UK
Parti masnach deg ar y Maes
Rhodri  Glyn Thomas ac Alan Price
Rhodri Glyn Thomas yn profi'r coffi gydag Alan Price, sydd yn gwerthu'r peiriannau coffi
Cafodd parti masnach deg ei gynnal ar Faes yr Eisteddfod ddydd Iau.

Ymhlith y gwesteion y tu allan i'r Babell Heddwch roedd Rhodri Glyn Thomas AC, Betty Williams AS, Ffred Ffransis a Gillian Elisa.

Roedd y gwesteion yn blasu tê a choffi sy'n sicrhau pris teg i ffermwyr a chynhyrchwyr yng ngwledydd tlawd y byd.

Hefyd roedd cyfle iddyn nhw weld peiriant coffi sydd yn darparu coffi teg yn gweithio.

Gwerin y Coed, Oxfam, Cymorth Cristnogol a'r Ganolfan Gymraeg ar Faterion Rhyngwladol oedd yn gyfrifol am y digwyddiad.

Rydyn ni wedi bod yn trafod masnach deg yn y Cynulliad a chael peiriant coffi teg yno a gobeithio y bydd sefydliadau eraill yn gwneud yr un fath.
Rhodri Glyn Thomas, A.C
Wrth egluro pam y penderfynodd ddod i brofi'r coffi, meddai Rhodri Glyn Thomas: "Mae'n bwysig cefnogi masnach deg yn y byd gan fod masnach yn golygu fod pobol cael eu gorfodi i fyw mewn tlodi ac yn cael eu hecsploetio.

"Rydyn ni wedi bod yn trafod masnach deg yn y Cynulliad a chael peiriant coffi teg yno a gobeithio y bydd sefydliadau eraill yn gwneud yr un fath.

"Rydyn ni yn y Cynulliad wedi manteisio ar y cyfle i sôn am y sefyllfa ryngwladol a'r cyfrifoldeb dros dynged pawb yn y byd a bod yn rhaid cyd-fyw," ychwanegodd.

'Parchu'

Mae Ffred Ffransis, perchennog Cadwyn, yn ymwybodol hefyd o bwysigrwydd masnach deg ac mae ei gwmni crefftau yn cyd weithio gyda chrefftwyr yng Ngogledd a Gorllewin Affrica.

Mae Cadwyn yn gwerthu nwyddau'r crefftwyr hyn.

Gillian Elisa a'i chariad
Gillian Elisa a'i chariad yn mwynhau'r coffi yn yr haul
Meddai Mr Ffransis: "Rydyn ni'n parchu'r crefftwyr sy'n cynhyrchu'r nwyddau fel pobol ac fel cyfeillion ac os yw rhywun yn adnabod pobol yna fyddan nhw ddim yn cael eu hecsploetio."

Wrth sôn am y peiriant coffi meddai: "Mae nifer o bobol yn cytuno â masnach deg ond prosiectau fel hyn sydd ei angen i droi'r syniad yn gynllun."

Un arall oedd yn mwynhau'r coffi oedd Gillian Elisa.

Cefnogi

"Mae cefnogi masnach deg yn bwysig oherwydd mae angen i'r bobol sy'n gwneud y gwaith gael y tâl cywir.

Mae nifer o bobol yn cytuno â masnach deg ond prosiectau fel hyn sydd ei angen i droi'r syniad yn gynllun.
Ffred Ffransis, perchennog Cadwyn
"Rydw i'n falch fod y digwyddiad yma wedi ei drefnu i dynnu sylw er mwyn i bobol ddeall beth sy'n mynd ymlaen," meddai.

Awel Irene Swyddog Datblygu Cynaladwy Gwerin y Coed, mudiad dros heddwch i blant a phobol ifanc, oedd wedi trefnu'r digwyddiad ddydd Iau.

Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd ynglýn â masnach deg dywedodd ei bod yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn perswadio'r Eisteddfod i ddefnyddio'r peiriannau.

Meddai: "Rydyn ni'n gofyn i'r Eisteddfod wrth roi cytundebau bwyd y flwyddyn nesaf i gynnwys cymal sy'n rhoi'r opsiwn i bawb i ofyn am de a choffi masnach deg."




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^