Roedd y cyrff i'w gweld o amgylch y Maes
|
Cafodd siapiau cyrff eu paentio o amgylch y Maes ddydd Mercher gan Gymdeithas y Cymod er cof am y rhai a laddwyd yn Hiroshima.
Hefyd cafodd Gwasanaeth Coffa Hiroshima ei gynnal ym Mhabell yr Eglwysi er mwyn cofio am y 70,000 a laddwyd gan y bom ar 6 Awst 1945 a'r bobol sy'n marw o ganlyniad i ymbelydredd.
Penderfynodd Cymdeithas y Cymod lunio siapiau cyrff eleni er mwyn pwysleisio mai dim ond cysgodion oedd ar ôl o'r bobol a gafodd eu llosgi gan y ffrwydrad.
Meddai Gruffudd Edwards, Gweithiwr Heddwch yng Nghymdeithas y Cymod: "Roedd gosod y cyrff ar y llawr yn ffordd o godi ymwybyddiaeth pobol ac yn fodd o'u hatgoffa ein bod yn byw mewn cyfnod sydd yr un mor dreisgar heddiw a'i bod yn amlwg nad yw rhyfel a thrais yn creu heddwch."
Wrth sôn am ryfel Irac a phenderfyniad Tony Blair, Prif Weinidog Prydain, a George Bush, Arlywydd America, dywedodd Mr Edwards ei fod yn credu mai heddwch oedd eu nod yn y pendraw.
"Ond nid nod ddylai heddwch fod ond ffordd. Nid yw rhyfel fyth yn arwain at heddwch," meddai.
Mae Cymdeithas y Cymod yn cofio Hiroshima ar Faes yr Eisteddfod bob blwyddyn.
Yn ystod yr 1980au fe ymunodd pobol i ffurfio cadwyn o gwmpas y pafiliwn.