Bu'r pedwar ymgeisydd yn siarad ym Mhabell y Dysgwyr ddydd Mercher
|
Mike Hughes o Garno yw Dysgwr y Flwyddyn eleni.
Cafodd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn ei chynnal ddydd Mercher a cafodd enw'r buddugol ei gyhoeddi mewn noson wobrwyo yn Y Trallwng nos Fercher.
Y pedwar a gyrhaeddodd y rownd derfynol eleni oedd Glyn Davies AC, Aran Jones, Mike Hughes a Teresa Cody.
Cafodd y rownd derfynol ei chynnal yn Swyddfa'r Eisteddfod ar Y Maes brynhawn dydd Mercher a'r beirniaid oedd Hazel Charles Evans, Spencer Harris ac Elwyn Hughes.
Mike Hughes a gyrhaeddodd y brig ac mae wedi derbyn Tlws Dysgwr y Flwyddyn a £300.
Gwr o Garno yw Mike Hughes ond cafodd ei eni a'i fagu yn Surrey.
Penderfynodd ddechrau dysgu Cymraeg o ddifri wyth mlynedd yn ôl.
Erbyn hyn, mae'n defnyddio'r iaith yn gyson yn ei waith fel Gweithiwr Allanol Gwledig.
Gweithgar
Hefyd mae'n weithgar gyda'r Gymraeg yn y gymuned ac yn ysgrifennu colofn y dysgwyr yn ei bapur bro Seren Hafern.
Mae'n gadeirydd Cylch Llenyddol Maldwyn ac yn diwtor rhan amser gan ddysgu Cymraeg i oedolion yn Y Drenewydd.
Yn bresennol yn y noson wobrwyo gydag ef oedd ei fam.
Doedd ei dad ddim yn gallu bod yno gan ei fod yn wael.
Mae ei dad yn dod o dde Cymru ac fe fu ef hefyd yn ymdrechu i ddysgu Cymraeg.
Ond meddai Anne Hughes, mam Mike: "Roedd ei dad wedi dechrau dysgu Cymraeg ond roedd Mike wedi dwyn ei lyfrau.
"Fe wnes i fwynhau'r noson ond dydw i ddim yn siarad Cymraeg a doeddwn i ddim yn sylwi fod Mike wedi ennill hyd nes i mi glywed ei enw.
"Dim ond ei enw oeddwn i yn ei ddeall" meddai.
Gwobr
Fe dderbyniodd y tri ymgeisydd arall yn y gystadleuaeth £100 yr un.
Yn ogystal mae'r ymgeiswyr i gyd yn derbyn tanysgrifiad blwyddyn i gylchgrawn Golwg a thlysau gan Gymdeithas Gymraeg Amwythig.
Un o'r rhai oedd yn y rownd derfynol yn y gystadleuaeth oedd Glyn Davies A.C.
Ffermwr a gwleidydd yw Mr Davies o Aberriwe, Sir Drefaldwyn.
Yn ei ddyddiau ysgol doedd ganddo ddim diddordeb yn y Gymraeg ond ddwy flynedd a hanner yn ôl penderfynodd ddysgu'r iaith trwy fynychu gwersi Cymraeg fel aelod o'r Cynulliad.
Mae hefyd wedi bod yn gynghorydd sir ac yn gadeirydd Bwrdd Datblygu Cymru Wledig.
Ei obaith meddai yw "medru siarad Cymraeg cystal â Dafydd Wigley".
Ymgeisydd arall oedd Aran Jones.
Fe ddechreuodd ef ddysgu Cymraeg ddwy flynedd yn ôl a hynny er mwyn ad-ennill ei etifeddiaeth fel Cymro a chadw at addewid a wnaeth i'w daid y byddai'n dysgu'r iaith.
Boddhad
Dywed fod ganddo brofiad cymysg a difyr o ddysgu Cymraeg a'i fod wedi cael hwyl, wynebu gwaith caled a theimlo rhwystredigaeth a boddhad wrth ddysgu.
Mae'n byw yng Nghaernarfon ac yn gweithio yn swyddfa Cyngor Gwynedd.
Hefyd yn y rownd derfynol roedd Teresa Cody.
Mae Teresa o dras Gwyddelig ac wedi ei geni a'i magu yn Birmingham.
Aeth i Brifysgol Cymru Aberystwyth i ddilyn cwrs mewn Astudiaethau Celtaidd yn yr Adran Gymraeg.
Erbyn hyn mae'n gwneud ei gradd trwy gyfrwng y Gymraeg, er nad oedd yn gallu siarad gair cyn hynny.
Y boddhad mwyaf y mae wedi ei gael o ddysgu Cymraeg yw ei bod wedi cael cyfle i gymdeithasu a chyfarfod pobol ac mae'n weithgar iawn gyda CYD.