Mae eli haul ar gael am ddim ym mhabell Mudiad Ysgolion Meithrin
|
Mae yna dipyn o ryddhad ymysg yr eisteddfotwyr ym Meifod ddydd Mercher gan nad yw'r tywydd mor boeth.
Roedd yna dipyn o bryder gan fod y rhagolygon yn datgan mai dydd Mercher fyddai'r diwrnod poethaf.
Ond er nad yw'r tywydd mor boeth ym Meifod erbyn hyn mae rhybuddion o hyd y dylai pobol fod yn ofalus.
Meddai Elfed Roberts, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod: "Rydyn ni yn dal i rybuddio pobol i fod yn ofalus ac mae yna fwy o swyddogion ambiwlans yma nac oedd yn Nhyddewi," meddai.
Mae swyddogion ym mhabell Ymchwil Cancr, hefyd, yn rhybuddio fod yna beryglon o hyd er gwaetha'r cymylau.
Maen nhw'n cynghori pobol a ddaw i mewn i'r babell ynglýn â sut i ddiogelu eu hunain yn yr haul.
Mae Siwan Jobbins yn sicrhau fod y plant yn gwisgo eli haul
|
Meddai Maggie Hughes, Cyfarwyddwraig Casglu Arian Ymchwil Cancr yng Nghymru: "Mae tywydd cymylog yn gallu bod yn beryglus hefyd. Er ei bod yn ddwl mae pelydrau'r haul yn dal i gyrraedd y croen.
"Hefyd mae tywydd cymylog yn beryglus gan fod pobol yn aml yn anghofio'r rheolau.
"Rydyn ni'n cynghori pobol i roi hylif haul sydd o leiaf yn ffactor 15 ac o leiaf 30 i blant, crys-t llac, a het neu gap i orchuddio'r pen.
"Fe ddylai pobol geisio cadw o'r haul rhwng 11 a dau o'r gloch a hefyd mae'n rhaid cofio yfed digon o ddwr," ychwanegodd.
Mae nifer o'r rhai sy'n ymweld â'r Eisteddfod yn ymwybodol fod yn rhaid bod yn ofalus o hyd.
Mae gan Siwan Jobbins ddau o blant ifanc, un yn 19 mis a'r llall yn 14 mis, ac roedd wedi bod yn bryderus y byddai'r tywydd yn poethi.
"Er ei bod yn well ar y Maes heddiw fe fyddwn i'n dweud fod angen i bobol ddod â hetiau ac eli haul gyda nhw a chofio ei roi yn rheolaidd."
Penderfynodd Helen Faulkes a Marian Hughes ddod i Feifod am nad oedd mor boeth.
|
"Dydi hi ddim yn rhy ddrwg heddiw ond rydyn ni'n aros mewn carafan ac mae'r plant wedi cael trafferth cysgu yn y tywydd twym," ychwanegodd.
Fe benderfynodd Helen Faulkes a Marian Hughes ddod i'r Eisteddfod ddydd Mercher am nad oedd mor boeth.
Mae gan y ddwy blant yn amrywio o 14 oed i bedair oed.
"Fydden ni ddim wedi dod yma pe bai'n braf, fe fyddwn i wedi mynd â'r plant i lan y môr," meddai Marian Hughes.
Er nad yw'r tywydd cystal, maen nhw hefyd yn gwneud yn siwr fod eu plant yn gwisgo eli haul a hetiau.
Mae Mudiad Ysgolion Meithrin hefyd yn parhau i wneud yn siwr fod y plant sy'n ymweld â'r Feithrinfa'n defnyddio eli haul.
Mae Boots, un o noddwyr yr Eisteddfod, wedi darparu llu o olewon amrywiol o bob lliw er mwyn i rieni allu eu defnyddio ar eu plant.
Dywedodd Wayne Evans fod tua 110 o bobol wedi eu cludo i'r ysbyty
|
Yn ystod dyddiau cyntaf yr Eisteddfod fe fu'r tywydd yn boeth iawn.
Dywed Wayne Evans, swyddog ambiwlans lleol, fod tua 110 o bobol wedi eu cludo i'r ysbyty yn ystod y cyfnod hwnnw.
"Mae cael meddygfa ar y maes yn bwysig," meddai, "gan fod yr ysbyty agosaf 25 milltir i ffwrdd.
"Mae'r rhan fwyaf o bobol sydd wedi dod atom ni wedi cael eu pigo gan bryfed neu wedi llewygu yn y gwres.
"Rydyn ni yn gobeithio'n awr y bydd pobol wedi clywed am y rhybuddion ac yn cofio dod ag eli haul gyda nhw pan yn ymweld â'r Maes."