BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 6 Awst, 2003, 13:46 GMT 14:46 UK
Talu teyrnged i Islwyn Ffowc
Islwyn Ffowc Elis
Mae Islwyn Ffowc Elis yn byw yn Llanbedr Pont Steffan

Cafodd bywgraffiad newydd am un o brif lenorion Cymru ei lansio ar faes yr Eisteddfod ddydd Mercher.

Cafodd 'Rhywfaint o Anfarwoldeb' ei 'sgwennu gan yr awdur T Robin Chapman a'i gyhoeddi gan Wasg Gomer.

"Mae'n amhosib dychmygu ffurfafen lenyddol (na gwleidyddol na diwyllianol ehangach) Cymru ail hanner yr 20fed ganrif hebddo," meddai Mr Champan.

Cafodd Islwyn Ffowc Elis ei eni yn Nyffryn Ceiriog yn 1924 ac mae'n byw heddiw yn Llanbedr Pont Steffan lle treuliodd 15 mlynedd yn ddarlithydd coleg.

Mae'n addas mai yn Y Babell Lên ym Meifod y lansir 'Rhywfaint o Anfarwoldeb' oherwydd bu Islwyn Ffowc Elis yn weinidog am gyfnod byr yng nghapel y Wesleaid yn y pentref hwnnw yn ystod y 1950au.

Yn ystod y cyfnod hwnnw tra'n byw yn Llanfair Caereinion, ysgrifennodd Cysgod y Cryman, ac mae'r awdur yn dweud mai ei brofiad o fyw yn Llanfair a'i ysgogodd i ysgrifennu'r nofel.

Sylwodd llawer o adolygwyr a beirniaid bod harddwch Maldwyn yn ffactor pwysig yn y gyfrol - bron mor bwysig â Harri Vaughan, y prif gymeriad.

Mae'n fab fferm cyfoethog a breintiedig, sy'n fyfyriwr yn y Brifysgol ym Mangor, ond sy'n dod o dan ddylanwad Comiwnyddiaeth, ac o'r herwydd yn troi ei gefn ar werthoedd ei dad a'i gyfoeth.

Dau ddosbarth

"Dau ddosbarth yn unig oedd yn fy hen ardal i, sef y bobol gyffredin a'r sgweier o Sais oedd yn byw yn y Plas," meddai Islwyn Ffowc yn y bywgraffiad.

"Ond yn y rhan hon o Faldwyn yr oedd graddfeydd cymdeithasol cymhleth, nid Saeson oedd yn y ffermwyr mawr, ond Cymry Cymraeg glân gloyw.

"Ac eto roedd y pentrefwyr yn edrych i fyny at y ffermwyr mawr a'u teuluoedd - 'Isaac Roberts y gof' ond 'Mr Jones y Parc'.

"Y ffermwyr mawr hyn oedd arweinwyr y gymdeithas, un efallai'n gynghorydd sir ac yn ynad heddwch, y lleill yn ddiaconiaid neu'n flaenoriaid yn y capeli.

"Mi feddyliais, 'Beth petai gan un o'r ffermwyr mawr hyn fab disglair, ac yntau, er ei anfon i ysgol breifat. . . yn mynd i'r Brifsgol ym Mangor, fy hen goleg i, lle byddai holl blant gogledd Cymru'n mynd yn y 40au, ac yno'n troi'n erbyn crefydd a gwleidyddiaeth ryddfrydol ei deulu, oni fyddai cythrwfwl yn y teulu a'r ardal?'," meddai Islwyn Ffowc Elis.

Dyma oedd egin y stori enwog sydd wedi gwerthu bron i 50,000 copi erbyn hyn.

Islwyn Ffowc Elis oedd y llenor Cymraeg cyntaf i fentro ennill ei fywoliaeth o ysgrifennu, a bu'n gyfrifol am weddnewid barn pobol am yr hyn yr oedd hi'n bosib ac yn dderbyniol ysgrifennu amdano yn Gymraeg.





Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^