BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 6 Awst, 2003, 10:17 GMT 11:17 UK
Dysgwyr: Lansio safonau
Jane Davidson
Davidson: Gwella sgiliau llythrennedd 'yn flaenoriaeth'

Mae Gweinidog Addysg a Dysgu Gydol Oes y Cynulliad yn lansio safonau Cymraeg ar gyfer llythrennedd a rhifedd i oedolion.

Jane Davidson sy'n lansio'r safonau yn stondin yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol ar y Maes a'r asiantaeth oedd yn gyfrifol am lunio'r safonau.

Y safonau sy'n nodi yr hyn y disgwylir i oedolyn sy'n dysgu Cymraeg ei gyflawni a byddan nhw'n helpu athrawon i asesu gallu dysgwr.

Hwn yw'r tro cyntaf i safonau cenedlaethol ar gyfer llythrennedd a rhifedd gael eu gosod yn y Gymraeg.

"Mae gwella sgiliau llythrennedd a rhifedd yng Nghymru yn un o flaenoriaethau pennaf y Cynulliad," meddai Ms Davidson.

Mae'r safonau hyn yn cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg wrth ddatblygu sgiliau ac wrth annog oedolion i ddychwelyd i fyd addysg
Rhiannedd Pratley, Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol

"Mae hynny, wrth gwrs, yn golygu bod yn rhaid i'r rheiny sy'n siarad Cymraeg gael y cyfle i wella eu sgiliau sylfaenol yn y Gymraeg."

Dywedodd y byddai'r safonau'n rhoi statws ychwanegol i'r Gymraeg mewn maes lle bu gwagle.

Ond yn bwysicach fyth, meddai, bydd yn atgyfnerthu'r cyfleoedd i'r rheiny sy'n dymuno gwella'u sgiliau llythrennedd a rhifedd yn eu hiaith eu hun.

"Mae cyflogwyr yn gofyn yn fwyfwy am sgiliau Cymraeg a derbynnir statws Cymraeg llafar," meddai.

"Ond mae angen i ni gyrraedd sefyllfa'n gyflym lle gallan nhw ddibynnu ar eu staff i gynhyrchu gohebiaeth, adroddiadau a deunyddiau ysgrifenedig eraill yn y Gymraeg," meddai.

"Mae'r safonau hyn yn cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg wrth ddatblygu sgiliau ac wrth annog oedolion i ddychwelyd i fyd addysg," meddai Rhiannedd Pratley, Dirprwy Gyfarwyddwr Cymru yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol.

'Heriol'

"Mae Strategaeth Genedlaethol Sgiliau Sylfaenol y Cynulliad Cenedlaethol yn gosod nodau heriol ac mae'r safonau yn rhan yn unig o'r broses ehangach o wella sgiliau darllen, ysgrifennu a mathemateg ar draws Cymru."

Bydd Ms Davidson yn lansio taflen ddwyieithog yn trafod y cynllun Anelu'n Uwch.

Taflen yw hon ar gyfer rhieni ac mae'n amlinellu'r holl gyfleoedd sydd ar gael i'w plant.

Bydd y lansiad ar drelar Anelu'n Uwch Cymru.

Sioe Symudol yw Anelu'n Uwch Cymru sy'n hyrwyddo'r manteision o fynd i'r brifysgol a'r bwriad yw annog disgyblion i feddwl am ba yrfa i ddewis yn y tymor hir.




HEFYD:
ELWa'n 'dal mewn argyfwng'
13 Mai 03  |  Newyddion
ELWa: Jane Davidson am aros
28 Maw 03  |  Newyddion
ELWa yn wynebu argyfwng 'difrifol'
27 Maw 03  |  Newyddion
Corff addysgu o flaen y Cynulliad
23 Ion 03  |  Newyddion
Rhannu corff addysg yn ddau
26 Maw 03  |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^