Roedd Rhodri Morgan yn siarad ar y Maes ddydd Mawrth
|
Roedd llu o gwestiynau anodd yn aros Rhodri Morgan, Prif Weinidog y Cynulliad, wedi iddo areithio ym Mhabell y Cymdeithasau brynhawn dydd Mawrth.
Fe fu ef a Betty Williams, AS Conwy, yn annerch yng nghyfarfod Cymdeithas Cledwyn, cymdeithas a ffurfiwyd dair blynedd yn ôl er cof am y diweddar Cledwyn Hughes.
Testun yr araith oedd Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Traddodiad Cymreig.
Ond yn ystod y sesiwn holi ac ateb wedi i'r ddau annerch roedd tipyn o gwestiynau yn aros Mr Morgan.
Wrth i gawod drom o law darfu ar y cyfarfod, roedd rhai o aelodau Cymuned am holi Mr Morgan ar sefyllfa'r iaith ac addysg Gymraeg a'r cymunedau yng nghefn gwlad Cymru.
Y mater oedd yn poeni Geraint Huws o Ben Llưn oedd y farchnad dai.
Roedd am wybod sut yr oedd y ffaith na all pobol ifanc fforddio prynu tai yn gyfiawn yn gymdeithasol.
Holi
Gofynnodd Deilwen Evans o fudiad Cadno wedyn pam yr oedd y blaid yn caniatáu adeiladu storfa newydd yn Nhrawsfynydd.
Meddai Mr Morgan: "Dydw i ddim yn gallu ateb ar y storfa achos dydw i ddim yn gwybod y manylion."
Roedd Betty Williams a Rhodri Morgan yn siarad yng nghyfarfod Cymdeithas Cledwyn
|
Yn ystod ei araith fe fu Mr Morgan yn pwysleisio'r hyn y mae Llafur wedi ei gyflawni yn nhymor cyntaf y Cynulliad.
Cyfeiriodd at y cynllun llaeth am ddim i blant, presgripsiwn am ddim i bobol ifanc o dan 25 oed, mynediad am ddim i orielau ac amgueddfeydd a chaniatáu i'r henoed deithio am ddim ar fysiau.
Aeth ymlaen i ddweud beth mae'r Llywodraeth yn bwriadu eu cyflawni yn ystod y tymor presennol fel caniatáu i'r henoed gael mynediad am ddim i ganolfannau hamdden.
"Mae'r hyn i gyd yn rhan o'r egwyddor o ddwr clir coch yn ystod y broses o osod y maniffesto," meddai.
Wrth geisio egluro pam na phleidleisiodd nifer o bobol yn yr etholiad meddai: "Mae pobol yn meddwl eu bod nhw'n ethol pwyllgor ymgynghorol yn hytrach na llywodraeth."
Blaenoriaethau
Wrth ymateb i'r feirniadaeth gan rai o aelodau'r gynulleidfa meddai: "Ychydig o bobol oedden nhw ac mae ganddyn nhw flaenoriaethau gwahanol i'r Llywodraeth.
"Mae blaenoriaethau Cymuned yn wahanol i ni ac mae pob hawl ganddyn nhw i osod ymgeiswyr ... ond allan nhw ddim dweud bod eu syniadau nhw yn cynrychioli mwyafrif yr etholwyr."
 |
Does yna ddim ewyllys gan Lywodraeth y Cynulliad i achub y Gymraeg
|
Ddwy awr ynghynt ym Mhabell y Cymdeithasau yng Nghyfarfod Cyhoeddus Cymuned Llywodraeth y Cynulliad a'u dogfen Iaith Pawb oedd o dan y lach eto.
Testun araith Wyn Hobson, aelod o Bwyllgor Gwaith Cymuned, oedd 'Y Gymraeg a'i Chymunedau: Methiannau Llywodraeth Cynulliad Cymru'.
Meddai Wyn Hobson: "Craidd y neges yw fod lle cryf i amau nad oes fawr o weithredu wedi bod gan y Llywodraeth yn arbennig o ystyried dogfen Iaith Pawb.
"Ffordd o gadw'r deallusion Cymraeg yn hapus yw addewidion Iaith Pawb a does yna ddim ewyllys gan Lywodraeth y Cynulliad i achub y Gymraeg."
Hefyd beirniadodd y ffaith nad oes arian ychwanegol wedi ei neilltuo ar gyfer y Cynllun Cymorth Prynu, sy'n cynnig benthyciadau i deuluoedd ar incwm isel i'w helpu i brynu tư yn eu hardal eu hunain.