Gall Y Cymro ddosbarthu cyfrwng print traddodiadol i ddarllenwyr dros y we
|
Mae Y Cymro wedi arwyddo cytundeb sy'n golygu mai hwn yw'r papur newydd Cymraeg cyntaf fydd ar gael yn gyfan gwbl ddigidol
dros y rhyngrwyd.
Bydd Y Cymro yn cydweithio â NewsStand, cwmni dyfeisgar gyda thechnoleg â phatent dan ystyriaeth, ar gyfer darparu cyfrwng print traddodiadol dros y rhyngrwyd.
Bydd darllenwyr yn derbyn copi digidol o'r fersiwn print gyda
chyfleusterau chwilio, chwyddo a llywio.
Bydd yn cael ei ddosbarthu'n awtomatig i danysgrifwyr.
Diddordeb mawr
Mae diddordeb mawr yng nghynllun NewsStand o fewn y byd cyhoeddi.
Ar hyn o bryd, mae NewsStand yn gweithio gyda chyhoeddwyr blaenllaw eraill ac mae'r papurau newydd eraill sydd ar gael drwy danysgrifiad yn cynnwys y Scotsman,
yr Australian, y New York Times, Le Monde, China Daily a'r New Zealand Press.
Mae Y Cymro yn gweld y buddsoddiad yma'n "bwysig iawn fel rhan o'i orchwyl i dorri cwys cystadleuol newydd ac ennill llwyddiant ym marchnad y we".
Gall Y Cymro yn awr ddosbarthu cyfrwng print traddodiadol i ddarllenwyr
drwy'r rhyngrwyd, ar draws y byd.
Bydd tanysgrifwyr yn llwytho'r Cymro ac yn darllen eu papur
newydd yn union fel gyda'r fersiwn print.
Newidiadau mawr
"Mae yna newidiadau mawr yn y byd cyhoeddi," meddai Golygydd Y Cymro, Rob
Jones.
"Mae'n rhaid i gyhoeddwyr gydnabod y bygythiad o du gwybodaeth ar y we
a gwneud ymdrech i wrth wneud hyn.
"Mae gofynion y cwsmer, hefyd, yn newid wrth i bobol deithio'n fwy aml a
chwilio am fynediad mwy effeithiol at nwyddau a gwasanaethau cyhoeddwyr.
"Mae gan gwsmeriaid fwy o ddewis yn awr yn y modd maen nhw'n cael mynediad at,
ac yn derbyn gwybodaeth.
"Mae gwasanaeth dosbarthu di-bapur Y Cymro yn rhoi i ddarllenwyr nad ydynt yn gallu prynu'r papur y nesaf peth at brofiad cyfrwng print traddodiadol," ychwanegodd.